'Rhaid newid y ffordd 'da ni'n meddwl am ddillad'
![Lois a Angharad Prys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/594/cpsprodpb/eb2d/live/38e3c3a0-e79c-11ef-a505-157dea5e3e95.png)
Lois a Angharad Prys
- Cyhoeddwyd
"Mae'r diwydiant ffasiwn yn cyfrannu mwy at newid hinsawdd na'r diwydiant awyrennau a llongau wedi eu cyfuno. Felly, os ydan ni'n poeni am yr amgylchedd a dyfodol ein planed, mae'n rhaid i ni newid y ffordd 'da ni'n meddwl am ddillad."
Mae darllen llyfr am effaith ffasiwn ar yr amgylchedd wedi ysbrydoli dwy chwaer o Gaernarfon i gychwyn prosiect Llai.
Mae Lois a Angharad Prys newydd gychwyn yr ymgyrch, sy'n annog pobl i osgoi ffasiwn cyflym ac i gefnogi ffasiwn cynaliadwy.
Dywedodd Lois bod darllen llyfr o'r enw Less gan Patrick Grant, un o feirniaid y gyfres The Great British Sewing Bee, wedi ei 'sobri' hi, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Mi wnaeth i fi sylweddoli gymaint o bethau yn gyffredinol mewn bywyd ydym ni'n brynu dyddiau yma, gan gynnwys dillad.
"Mae safon be' 'da ni'n brynu yn waeth nac erioed, sy'n cael effaith andwyol ar y byd a'r economi leol."
Penderfynodd y ddwy chwaer drefnu ffair ffeirio dillad yng Nghaernarfon ar gyfer Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy ym Medi 2024, gyda'r elw i gyd i'r Ambiwlans Awyr. Ac yn dilyn llwyddiant y digwyddiad mae'r ddwy wedi cychwyn prosiect Llai gyda chefnogaeth criw prosiect Cylchol, Menter Môn.
'Meddwl ddwywaith'
Mae ffasiwn cyflym yn broblem anferth, yn ôl Angharad: "Pan 'da chi'n meddwl yn ôl, mi oedd degawd yn diffinio ffasiwn penodol ers talwm - minis yn y 60au, maxis yn y 70au, puff skirts yn yr 80au - ond erbyn heddiw, mae ffasiwn yn symud mor gyflym, mi all rhywbeth fod mewn ffasiwn yn mis Ionawr ac allan o ffasiwn chwe mis wedyn.
"O ganlyniad, mae siopau'r stryd fawr yn cynhyrchu dillad yn gyflym ac yn rhad sy'n arwain at sefyllfa ble mae miliynau o dunelli o ddillad yn cael eu cynhyrchu, gwisgo a'u taflu bob blwyddyn.
"Y peth mwya' fyddwn i yn hoffi ei weld yw fod pobl yn meddwl dwywaith cyn llwytho eu basgedi gyda dillad rhad – ar-lein ac mewn siopau.
"Llinyn mesur bach syml allwch chi ei ddefnyddio ydy i ystyried ydach chi'n mynd i wisgo y dilledyn newydd yna 30 o weithiau, ac oes gennych chi dri pheth yn y cwpwrdd fydd yn mynd efo'ch dilledyn newydd?"
![Gwasgod wedi ei gwnïo o ddefnydd dros ben gan Lois](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/867/cpsprodpb/f5aa/live/b300c020-e79c-11ef-8593-65a781785cd6.jpg)
Gwasgod wedi ei gwnïo o ddefnydd dros ben gan Lois
'Cael hwyl'
Mae'r ddwy yn pwysleisio pwysigrwydd trwsio neu wnïo dillad, fel mae Lois yn sôn: "Ni'n annog pobl i gael hwyl efo'u dillad. Mae personoleiddio eich cwpwrdd dillad yn ffordd wych a rhad o greu eitemau sy'n unigryw i chi.
"Dwi wedi cael pleser mawr o wnïo fy nillad fy hun ers imi fod yn fy arddegau. Yn gyffredinol, dwi'n tueddu i ddylunio a chreu dillad yn hytrach nag addasu, ond yn aml yn rhoi sialensau i mi fy hun - yn ddiweddar ces ddau ddarn o ddefnydd 1m o hyd, felly y sialens oedd creu dilledyn gan ddefnyddio pob tamaid o'r fetr oedd ar gael!"
Fel ei chwaer, mae Angharad yn angerddol am fod yn greadigol gyda dillad: "Dwi wrth fy modd yn prynu dillad ail-law ac yn eu haddasu i ffitio, neu pwytho efo llaw er mwyn eu personoli.
"Dwi hefyd yn gwneud hynny efo dillad sydd gena'i yn y cwpwrdd yn barod, lle dwi wedi dechrau 'laru arnyn nhw a jysd angen rhywbeth bach i'w gwneud yn ddifyr eto!"
Bydd y ddwy yn cynnal gweithdai mewn ysgolion lleol ac yn y gymuned ac yn trefnu digwyddiad Ffasiwn Araf yn Pontio Bangor ar 12 Ebrill fydd yn cynnwys gweithdai trwsio ac addasu dillad.
![Rhoi ail-fywyd i hen siaced denim trwy ychwanegu aderyn appliqué](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1280/cpsprodpb/441e/live/e23519e0-e79c-11ef-8593-65a781785cd6.jpg)
Rhoi ail-fywyd i hen siaced denim trwy ychwanegu aderyn appliqué
Gwastraff
Mae'r ddwy yn credu fod 'na sawl rheswm am yr holl wastraff yn y diwydiant ffasiwn a'r ffaith fod pobl ddim yn cael cymaint o ddefnydd o ddilledyn heddiw.
Dywedodd Lois: "Mae 'na dri pheth yn gallu arwain at hyn - ffasiwn, prynu mewn brys ac ansawdd y dilledyn.
"Weithiau efallai ein bod yn cael ein dylanwadu ormod gan beth sydd mewn ffasiwn - 'da ni'n prynu y dilledyn am ei fod yn ffasiynol ond yn sylweddoli yn sydyn iawn nad ydi'r steil neu'r lliw wir yn ein siwtio.
"Gall impulse buy mewn sêl hefyd arwain at ddillad sy' byth yn cael eu gwisgo. Cyn prynu, meddyliwch os ydych chi wir yn hoffi'r dilledyn neu ydych chi ond wedi dechrau ei hoffi ar ôl gweld ei fod hanner pris?"
Mae ansawdd hefyd yn broblem, yn ôl Lois: "Efallai eich bod wedi prynu cot newydd, a sylweddoli ar ôl tri mis o'i gwisgo fod yn gwneuthuriad mor wael, a'r defnydd mor synthetig, fel ei bod yn edrych yn shabby o fewn dim.
"Mae prynu un got o safon sy'n para blynyddoedd, o wlân neu ddeunydd naturiol yn llawer gwell i'r amgylchedd na un neu ddau o gotiau synthetig, rhatach."
![Cot o wlân Swydd Efrog at y gaeaf wedi ei gwnïo gan Lois](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/816/cpsprodpb/fec9/live/57cc3590-e79c-11ef-a505-157dea5e3e95.jpg)
Cot o wlân Swydd Efrog at y gaeaf wedi ei gwnïo gan Lois
Pris
Mae 'na fanteision i ail-ddefnyddio dillad hefyd, yn ôl Angharad: "Mae 'na fanteision enfawr - i'r blaned ond hefyd i'n poced.
"Edrychwch faint ydych chi wedi ei wario ar ddillad newydd dros gyfnod o chwe mis, a rhowch gynnig ar beidio prynu dillad newydd am y chwe mis nesa'.
"Neu, am yr un swm â beth wnaethoch chi wario mewn chwe mis ar hap, beth am brynu un dilledyn o safon mewn siop annibynnol leol i gefnogi'r economi leol?"
Cydweithio
Mae'r ddwy yn angerddol am brosiect Llai ond sut brofiad yw gweithio gyda'i gilydd am y tro cyntaf?
Meddai Lois: "Mi ydan ni'n agos iawn, ac er i ni sylweddoli yn fuan iawn bo' ganddo ni ffyrdd eitha' gwahanol o daclo prosiect newydd, ar ôl ychydig o drafod a chytuno ar gynllun a'r ffordd ymlaen, 'da ni'n dîm effeithiol iawn!"
Ac mae Angharad yn gytûn: "'Da ni'n debyg iawn i'n gilydd hefyd o ran ein meddyliau prysur! Mae negeseuon yn 'pingio' yn gynnar iawn rhai boreau, gan fod y ddwy ohonom wedi bod yn effro ers oriau wedi cael rhyw syniad newydd arall!"
Ymateb
Mae'r ddwy yn gobeithio y bydd y prosiect yn ysbrydoli pobl i feddwl ddwywaith cyn prynu dilledyn newydd ac, yn ôl Angharad, mae hynny wedi cychwyn digwydd: "Mae wedi bod yn braf iawn cael dwy yn cysylltu efo ni o fewn wythnos o lansio yn dweud ein bod wedi eu hysbrydoli i greu.
"Roedd un wedi mynd ati i liwio bŵts yn binc ar ôl gweld un o'n fideos ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac un arall wedi estyn ei pheiriant gwnïo am y tro cyntaf ers blynyddoedd ac wedi gwnïo sgert."
Meddai Lois: "Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel ac amryw o bobl yn ei stopio ar y stryd i'n llongyfarch am y fenter newydd.
"Mae siopa'n fwy gwyrdd yn amlwg yng nghefn meddwl amryw o bobl ac ella ein bod ni jysd wedi gwneud iddo fod yn fwy amlwg yn eu meddyliau."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023