Cyhoeddi enw deifiwr sydd ar goll ym Mhen Llŷn

Imrich o WarringtonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Imrich, 53, yn dod o ardal Warrington ac ar goll ers dydd Iau diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw y deifiwr sydd ar goll oddi ar arfordir Pen Llŷn ers dydd Iau diwethaf, wrth i’r chwilio barhau amdano.

Mae Imrich yn 53 oed ac yn dod o ardal Warrington.

Roedd adroddiadau bod deifiwr mewn trafferthion ger Porth Ysgaden, Pen Llŷn brynhawn Iau.

Cafywd hyd i gar Imrich - Ford Mondeo Titanium arian - mewn maes parcio ger Porth Ysgaden ynghyd ag eiddo personol.

Mae’r chwilio’n parhau amdano ar dir ac ar y môr.

Mae timau o Borthdinllaen, Aberdaron ac Abersoch, gan gynnwys hofrennydd, bad achub, a'r heddlu wedi bod yn chwilio am y dyn ers brynhawn Iau.

Gwylwyr y Glannau sydd yn cydlynu'r chwiliad. Fe wnaethon nhw roi'r gorau i'r chwilio ar ôl hanner nos, nos Iau, gan ddweud nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw un.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion yn cynorthwyo Gwylwyr y Glannau i chwilio eto ddydd Gwener a dros y penwythnos.

Apelio am wybodaeth

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu'r Gogledd eu bod yn dal i apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

"Rydym yn cadw pob ymholiad ar agor ac yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld Imrich i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.

"Gofynnir i unrhyw un a oedd yn ardal Porth Ysgaden ddydd Mercher, 27 Tachwedd neu ddydd Iau, 28 Tachwedd ac nad yw eisoes wedi bod mewn cysylltiad i gysylltu â ni."