Ffermwr o'r Bala wedi mygu ar ôl disgyn i bwll slyri - cwest
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed fod ffermwr o ardal Y Bala wedi marw trwy fygu ar ôl iddo ddisgyn i bwll slyri.
Roedd Islwyn Owen yn 67 oed ac yn byw ym mhentref Llanycil.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod Mr Owen wedi dringo ar ben wal isel er mwyn cael mynediad at beiriant uwchben y pwll slyri pan syrthiodd i'r pwll ar ddamwain.
Dioddefodd anafiadau difrifol i’w fraich dde a’i frest, a bu farw trwy fygu yn y cymysgedd.
Daeth y crwner i'r casgliad fod Mr Owen wedi marw "trwy ddamwain".
Cafodd yr heddlu wybod nos Fercher, 4 Medi fod Mr Owen ar goll, ac fe gafodd ei ddarganfod ar ei fferm yn ddiweddarach y noson honno.
Nodwyd mewn cwest blaenorol fod Mr Owen wedi ei ddarganfod yn y tanc slyri, a bod parafeddygon wedi cadarnhau ei fod wedi marw.
Clywodd y gwrandawiad fore Mawrth ei fod wedi cael ei ddarganfod gan ei gymydog Huw Meilir Jarrett.
Clywodd y gwrandawiad hefyd fod y pwll yn llawn slyri, a’r peiriant yn troelli’r cymysgedd ar y pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi
- Cyhoeddwyd6 Medi