Teyrnged i bysgotwr 'annwyl' fu farw ger arfordir Sir Benfro

Bu farw Jack Walker ar ôl cael ei dynnu o'r dŵr oddi ar arfordir Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i bysgotwr 35 oed "oedd yn ffrind da i bawb", fu farw oddi ar arfordir Sir Benfro.
Cafodd Jack Walker o ardal Maenorbŷr ei dynnu o'r môr ger Aberdaugleddau - tua milltir o'r lan - ar brynhawn 1 Mai.
Bu farw'n ddiweddarach.
Mae'r heddlu yn gweithio gyda'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol ac Asiantaeth Gwylwyr y Glannau i geisio sefydlu yr union amgylchiadau arweiniodd at y digwyddiad.
'Gwneud yr hyn roedd yn ei garu fwyaf'
Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Walker: "Mae ein calonnau wedi torri o golli ein mab, ŵyr, brawd, ewythr a brawd-yng-nghyfraith caredig, annwyl a chariadus.
"Yn ffrind da i bawb, fe wnaeth Jack ein gadael tra'n gwneud yr hyn roedd yn ei garu fwyaf.
"Mae ein meddyliau a dymuniadau gorau yn mynd i'w gyd-aelodau ar y criw y diwrnod hwnnw.
"Hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth."