Cyfansoddi yn iachusol wedi salwch difrifol

  • Cyhoeddwyd

O Gasnewydd y daw’r gantores-gyfansoddwraig Jenna Kearns, ac ers ei phlentyndod mae hi wedi dioddef gyda chrydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis).

Erbyn hyn mae’n gorfod defnyddio cadair olwyn er mwyn mynd o le i le, ond er ei bod mewn poen cyson, mae’n dweud bod cerddoriaeth yn ei chadw i fynd ac mai yn y geiriau mae hi’n eu hysgrifennu y mae’n teimlo’n fwyaf diogel.

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns

Derbyniodd Jenna nawdd gan Gronfa Lansio cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ym mis Chwefror 2023 i’w helpu gyda recordio a rhyddhau ei cherddoriaeth. Mae wedi rhyddhau’r sengl gyntaf Better ac yn bwriadu rhyddhau EP yn 2024.

Yn lled-ddiweddar fe fuodd Jenna’n sâl iawn. Treuliodd bythefnos mewn uned gofal dwys ac am gyfnod roedd hi’n bosib iawn na fyddai’n goroesi. Mewn ffilm fer gan Gorwelion fe rannodd Jenna ei stori.

“Llynedd fe ddechreuais gyfansoddi cerddoriaeth yn ymwneud â fy iechyd meddwl. Dyma’r mwyaf amrwd dw i wedi’i fod erioed.

“Bu rhaid i mi fynd i’r ysbyty llynedd. Dywedodd y doctoriaid wrth fy mam bod y posibilrwydd o ddod drwyddi yn llai na 30%. Roedd gen i sepsis. Cefais sgan a fe ddywedon nhw fod gen i dwll yn fy mhibell fwyd felly roedd unrhyw fwyd neu diod oeddwn i’n ei fwyta yn mynd yn syth i fy ysgyfaint."

Dim ond 30% o siawns o oroesi

“Dywedon nhw wrtha’ i bod rhaid i mi fynd i’r uned gofal dwys er mwyn cael ocsigen a dyna pryd nes i feddwl, 'dyna ni dw i’n mynd i’r uned gofal dwys a dw i ddim yn dod yn fy ôl'.

"Dw i’n cofio diolch i’r nyrsus am edrych ar fy ôl a dechreuais gynllunio fy angladd yn fy mhen. Dechreuais feddwl am fy holl eiddo a phwy oedd am gael beth. Roedd e’n frawychus, yn gyfnod brawychus iawn."

“Fe gafodd fy iechyd meddwl ergyd yn y cyfnod cyn mynd i’r ysbyty achos doedd neb yn fy nghredu i, a nes i ddechrau meddwl ei fod e’i gyd yn fy mhen i ac efallai mai fi oedd yn bod yn ddramatig.

"Ond roedd y symptomau ro’n i’n eu profi yn real iawn. Dywedodd doctor wrtha’ i mai teimlo’n isel oeddwn i. Ro’n i’n pesychu gwaed a roeddwn i’n teimlo fel nad oedd unrhyw un yn malio dim.

Ergyd i fy iechyd meddwl

“Fe es i at feddyg teulu arall a ro’n i’n hysterical. Dywedais wrtho fy mod i wedi blino ac wedi cael digon ar frwydro – yn erbyn pobl ac am fy iechyd. Dyna pryd 'nes i gyrraedd y gwaelod isaf. Ro’n i yn fy ngwely bob dydd yn cysgu. Doedd dim chwant bwyd arna i. Doeddwn i ddim eisiau yfed. Do’n i ddim eisiau gwneud unrhyw beth.

“Dyna pryd wnaeth fy nheulu ac ychydig o ffrindiau agos ddweud wrtha’ i bod yn rhaid i mi fynd i siarad â meddyg. Doeddwn i methu ag ymdopi yn gorfforol nac yn emosiynol ddim mwy, a dyna pryd gefais i feddyginiaeth gwrth-iselder."

Disgrifiad o’r llun,

Byw bywyd i'r eithaf

“Mae hi wedi bod yn daith hir ac araf ond dw i’n bendant wedi dod mas ar yr ochr arall. Ers yr holl brofiad dw i wedi ymroi fy hun i bopeth dw i eisiau ei wneud â fy mywyd, pethau fel cerddoriaeth. Mae gen i swydd, rwy’n mynd i weld ffrindiau ac yn mynd i gigs.

"Dw i’n gwneud y mwyaf o bethau. Mi allai’r anhwylder ddod yn ôl a dydw i ddim eisiau dweud, ymhen ychydig flynyddoedd, na wnes i unrhyw beth. Dw i ddim am fyw fy mywyd yn gwybod nad ydw i wedi gwneud unrhyw beth.

“Dw i’n cadw dyddiadur nawr ac ynddo mae ‘na restr o 101 o bethau hoffwn ei wneud eleni, a dw i’n falch o ddweud fy mod i wedi croesi hanner da ohonyn nhw! Dw i’n gwneud i’r pethau yna ddigwydd. Dyna lle dw i arni ar hyn o bryd."

“Fy nghyngor i i unrhyw un sy’n mynd drwy rhywbeth tebyg ar hyn o bryd yw i gredu ynoch chi eich hun, yn enwedig os nad yw pobl yn gwrando arnoch chi.

"Ni sydd yn adnabod ein cyrff. Dydyn nhw ddim yn gallu teimlo ein poen ni. Nid ganddyn nhw mae’r symptomau. Chi sy’n gwybod os oes rhywbeth o’i le.

“Mae’r caneuon sydd ar yr EP yn gasgliad o emosiynau rydw i wedi’u teimlo, yr emosiynau rydw dal y neu teimlo am y broses o wella wedi trawma mawr.

"Mae’r sengl Better am berthnasau wnaeth fy nhorri i. Dim ots beth oeddwn i’n trio ei wneud, do’n i ddim yn teimlo fy ngwerth. Ro’n i’n teimlo fel na fyddwn i byth yn byw i wneud fy hun yn hapus – dim ond plesio pobl eraill. I mi, mae’r gân yn cynrychioli emosiwn sy’n fy herio i bob dydd."

Ffynhonnell y llun, Jenna Kearns
Disgrifiad o’r llun,

Sengl ddiweddaraf Jenna yw Cards I've Been Dealt

“Dw i’n cofio ysgrifennu Better. Fe wnes i lefain drwy gydol y broses oherwydd fy mod i mewn lle tywyll ac unig iawn. Doedd hynny erioed wedi digwydd i mi wrth ysgrifennu o’r blaen felly dw i’n gwybod ei bod hi’n gân sy’n driw i mi fy hun. Fy ngobaith i yw ei bod hi’n helpu rhywun sy’n teimlo’r un fath.”

Gallwch wylio’r ffilm fer gyda Jenna Kearns yn fan hyn.

Mae Cronfa Lansio Gorwelion ar gyfer 2024 yn agored am geisiadau nawr ac yn cau dydd Llun, 23 Hydref 2023.

Hefyd o ddiddordeb