'Hiraeth ac ansicrwydd yn naturiol': Gair o gyngor i fyfyrwyr newydd
- Cyhoeddwyd
Gadael cartref, ffarwelio efo teuluoedd a ffrindiau, a dod i arfer efo bywyd newydd mewn dinas neu dref ddieithr - a hyn i gyd cyn dechrau astudio am radd.
Tydi wythnosau cyntaf yn y brifysgol ddim bob tro'n hawdd. Wrth i filoedd o bobl ifanc ar draws Cymru droi'n lasfyfyrwyr, yma, mewn llythyr agored iddyn nhw, mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth Elain Gwynedd yn rhannu ei phrofiad ac yn rhoi gair o gyngor.
Annwyl Glasfyfyrwyr 2023,
Sut yda chi? Yda chi'n bwyta? 'Da chi 'di gwneud ffrindiau? Sut bobl sy'n rhannu fflat gyda chi? 'Da chi'n mwynhau'r cwrs?
Os ydych chi'n lasfyfyriwr 'dw i'n eithaf sicr eich bod chi 'di clywed y cwestiynau yma droeon yn ystod y dyddiau dwytha 'ma, ac yn teimlo fel ateb yn ôl trwy ddweud, 'rhowch gyfle imi ffeindio 'nhraed, wir dduw!'
Yn sicr dyna fy mhrofiad i nôl yn 2020 pan fentrais i Brifysgol Aberystwyth i astudio'r Gymraeg, a phwy fysa'n meddwl tair blynedd yn ddiweddarach fy mod i'n croesawu myfyrwyr i Bantycelyn yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.
Colli'r teulu... a Cadi'r ci
'Dw i'n cofio hiraethu a theimlo'n ansicr yn ystod yr wythnosau cyntaf, colli fy nheulu, colli'n ffrindiau, ac yn fwy na neb, Cadi'r ci - sori Mam! Ond yn ddiarwybod imi roedd y mwyafrif o fy nghyd-fyfyrwyr yn teimlo'n union yr un peth.
'Dw i'n meddwl bod tuedd i bobl guddio'r hyn y maent yn ei deimlo yn yr wythnosau cyntaf yn enwedig, a pheidio â thrafod yr hyn sydd yn eu poeni er mwyn osgoi 'dangos gwendid', ond buan iawn y sylweddolais nid yn unig fod pawb yn yr un cwch, ond hefyd mai'r ffordd orau o wneud ffrindiau oedd bod yn agored a rhannu profiadau gydag eraill a oedd yn gallu uniaethu â mi.
'Top tips'
Felly, beth yw fy nhop tips i ar eich cyfer chi?
Yn gyntaf oll, gwnewch restr o'r holl ddigwyddiadau sydd at eich dant yn ystod yr wythnosau cyntaf, boed hynny drwy'r Brifysgol, Undeb Myfyrwyr, eich adran academaidd neu'r Undeb Myfyrwyr Cymraeg.
Bu imi fynychu sawl digwyddiad adrannol er mwyn ymgyfarwyddo â'r adran a chyfarfod fy narlithwyr, er enghraifft noson gwis a thaith gerdded o amgylch y dref, yn ogystal â mynychu digwyddiadau cymdeithasol UMCA, megis y crôl chwe dyn ble roedd tri myfyriwr o'r drydedd yn mynd â thri glasfyfyriwr ar daith o gwmpas tafarndai Aber.
Yn ail, ymunwch â llu o gymdeithasau er mwyn cyfarfod pobl newydd.
Heb os, mae nifer o fy uchafbwyntiau i yn y brifysgol yn deillio o ddigwyddiadau'r cymdeithasau Cymraeg, fel Y Ddawns a'r Eisteddfod Ryng-golegol, Taith Chwe Gwlad a Sŵn, sef noson gerddoriaeth Cymraeg fyny yn Undeb y brifysgol yma yn Aberystwyth.
Mae'n bwysig eich bod yn cael blas ar 'chydig o bopeth yn ystod yr wythnosau cyntaf er mwyn i chi wir ffeindio'r gymdeithas sydd o ddiddordeb i chi.
Cofiwch hefyd i beidio â theimlo o dan unrhyw bwysau i gyfarfod eich 'criw' yn ystod yr wythnosau cyntaf. Mae pobl yn aml yn cyfeirio at eu ffrindiau coleg fel eu ffrindiau oes, sydd yn sicr yn wir, ond does dim deadline ar gyfer hyn!
Byddwch yn driw i chi eich hunain ac fe ddaw'r bobl iawn yn rhan o'ch cylch ffrindiau chi. Yn ogystal, mentrwch drefnu nosweithiau cymdeithasol ar gyfer y rhai sy'n rhannu fflat gyda chi. Gwnewch y mwya' o'r ardaloedd cymdeithasol yn eich neuaddau preswyl a threfnu partïon pwnsh, nosweithiau ffilm neu gemau bwrdd.
Cymorth ar gael
Cofiwch hefyd am wasanaethau lles yr Undeb a'r Brifysgol, a gwefannau megis myf.cymru a meddwl.org. Tydi gofyn am gymorth ddim yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn dangos eich cryfder.
I rai ohonoch, efallai bod tair blynedd yn edrych fel amser hir ar y funud, ac er ei fod yn swnio'n cliché, coeliwch chi fi dyma dair blynedd gorau eich bywyd ac mae amser yn gwibio heibio.
Felly gwnewch yn fawr o bob cyfle sy'n dod i'ch rhan, mwynhewch bob eiliad a phob lwc.
Cofion gorau,
Elain Gwynedd,
Llywydd UMCA a chyn-lasfyfyriwr
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2023
- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018