Hedfan i Ffrainc mewn awyren 'ysgafnach na phac Cymru'
- Cyhoeddwyd
Byddai hedfan allan i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd - a hynny mewn awyren sy'n pwyso llai na phac Cymru - yn hunllef i rai.
Ond i Dave Pitman a Gavin Johns, roedd y ffaith bod gêm grŵp olaf Cymru mor agos i'w chyrraedd yn gyfle oedd yn rhy gyffrous i'w fethu.
Fe laniodd y ddau yn Rennes ddydd Gwener, cyn treulio'r penwythnos yn Nantes yn mwynhau awyrgylch y gystadleuaeth.
Ac nid nhw yw'r unig gefnogwyr sydd wedi dod o hyd i ffyrdd anarferol o deithio - mae Cymro arall wedi treulio dros fis yn seiclo 1,600 o filltiroedd rhwng y gemau.
'Fe benderfynon ni bydden ni'n ceisio hedfan'
Roedd Dave, o Dredelerch yng Nghaerdydd, a Gavin o Feisgyn yn Rhondda Cynon Taf, eisoes wedi teithio i'r gêm yn Lyon - a hynny mewn modd mwy traddodiadol, gyda chwmni teithio.
"Gan fod ni wedi cael canlyniad mor wych yn erbyn Awstralia, fe benderfynon ni bydden ni'n ceisio hedfan [i'r gêm grŵp olaf] os oedd y tywydd yn dda," meddai Dave.
Mae'r ddau wedi hedfan i Ffrainc sawl gwaith yn y gorffennol, gan gynnwys i ras fodur enwog Le Mans yn gynharach eleni.
"O berspectif hedfan yn gyffredinol, mae Ffrainc yn le gwych i wneud," meddai Gavin.
"Mae croesi'r Sianel yn gallu bod yn brofiad ychydig yn nerfus achos dim ond un injan sydd ar yr awyren, felly mae'n rhaid cymryd llawer o gamau diogelwch, ond mae hefyd yn dipyn o antur.
"Unwaith 'dyn ni'n cyrraedd mae'r rhyddhad a'r teimlad o fod wedi ei gyflawni yn ffantastig.
"Ond o ddifri', fydden ni ddim yn gwneud unrhyw beth peryglus - os yw'r tywydd yn wael, neu rhywbeth yn bod gyda'r awyren, 'dyn ni'n troi 'nôl."
Fe adawodd y ddau o Sain Tathan ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, cyn dychwelyd ddydd Sul.
Ond mae Dave yn cyfaddef nad yw'n siwrne i rywun sydd â stumog wan, yn enwedig o ystyried pa mor ysgafn yw'r awyren.
"Mae'n hawyren ni'n pwyso 880kg gyda thanc llawn, popeth ynddi, felly mae'r tywydd yn gallu chwarae rhan - roedden ni'n bownsio rownd [ar y ffordd allan]," meddai.
"Dwi'n meddwl bod pac Cymru'n pwyso 912kg, felly 'dyn ni'n ysgafn iawn [o'i gymharu]. Ond mae'r profiad yn un arbennig."
Ac mae Gavin yn "dawel hyderus" fod posibilrwydd y bydd yr awyren yn dychwelyd i Ffrainc cyn diwedd y gystadleuaeth.
"Os 'dyn ni'n curo Ariannin, mae 'na llain lanio neis yn Paris mae Dave wedi llygadu, felly byddwn ni yn y rownd gynderfynol," meddai.
Tra bod Dave a Gavin yn hedfan yn uchel, mae cefnogwyr eraill wedi bod yn cadw'u traed - neu'n hytrach, eu holwynion - ar y ddaear.
Fe wnaeth Mike Kelly adael Sir Benfro bum wythnos yn ôl ar ei feic, ac mae wedi bod yn cwblhau ei Tour de France ei hun wrth fynd o ddinas i ddinas yn gwylio gemau Cymru.
"Llynedd ges i ddiagnosis o epilepsi, felly roedd rhaid i fi roi'r gorau i yrru," meddai.
"Felly nes i benderfynu, pam ddim gwneud e ar y beic yn lle?
"Roedd e'n syniad gwell y llynedd nag oedd e erbyn i fi ddechrau!
"Ond mae wedi bod yn hwyl dda."
Oni bai am salwch bwyd ar y ffordd i Bordeaux - a gorfod parcio'r beic yn Avignon er mwyn cyrraedd y gêm yn Nice mewn pryd - mae Mike wedi llwyddo i gwblhau'r daith o un lleoliad i'r llall.
Mae'n golygu ei fod wedi seiclo tua 1,600 milltir hyd yma, neu dros dri chwarter y cyfanswm bu'n rhaid i feicwyr proffesiynol ei wneud ar y Tour de France eleni.
Mae Mike yn disgrifio ei hun fel seiclwr 'penwythnos' digon cyffredin, felly pan oedd pethau'n mynd yn anodd roedd ei feddwl yn troi at yr elusen y mae'n codi arian tuag ati.
Roedd wedi cymryd rhan mewn her feicio i godi arian i hosbis plant Tŷ Hafan yn y gorffennol, a bellach wedi codi bron i £1,000 fel rhan o'i her bresennol.
"Roeddwn i wastad yn mynd i seiclo beth bynnag, ond nes i feddwl man a man i fi wneud y mwyaf o'r peth wrth geisio codi tamed bach mwy o arian i Tŷ Hafan oherwydd y gwaith da maen nhw'n gwneud," meddai.
"Maen nhw'n helpu teuluoedd drwy'r cyfnodau mwyaf anodd, ac yn gwneud gwaith arbennig.
"Nes i gyfarfod tad oedd wedi cael help ganddyn nhw, oedd wedi colli ei fab, ac roedd e'n dorcalonnus.
"Aethon ni lawr i'r hosbis ar ddiwrnod cyntaf y daith ac mae e just yn taro chi. Felly ro'n i eisiau gwneud mwy drostyn nhw.
"Dyna oedd yn cadw fi'n pedalu pan o'n i'n meddwl am ddal y trên, ac yn gwneud i fi gario 'mlaen."
Mae'r bobl leol a chefn gwlad hardd Ffrainc hefyd wedi bod yn hwb ychwanegol iddo yn ystod ei daith.
"Does gen i ddim lot o Ffrangeg, a doedden nhw ddim yn siarad Saesneg - na Chymraeg chwaith!" meddai.
"Ond mae pawb wedi bod yn hyfryd, ac wedi bod yn garedig iawn i mi ar y ffordd.
"Nes i hefyd fynd dros y mynyddoedd, am ddeuddydd nes i ddim gweld unrhyw un, ac roedd y bywyd gwyllt yn wefreiddiol.
"Nes i weld dyfrgwn, afancod - un bore, ro'n i wrth y canal ac roedd cimwch yr afon ar y llwybr, yn chwifio'i grafangau ata i.
"10 metr ymlaen, un arall, ac am tua milltir roedd cimwch yr afon yr holl ffordd, yn chwifio'u crafangau yn flin.
"Roedd hwnna'n od iawn. Ond mae wedi bod yn hyfryd, a chefn gwlad mor brydferth."
Er ei fod yn disgrifio'r profiad fel "pum wythnos gorau fy mywyd", bydd Mike yn dychwelyd adref yr wythnos hon a does ganddo ddim cynlluniau i ddychwelyd.
"Fe wnaeth y mab Sam ofyn os o'n i am, ond i fod yn onest, dwi'n meddwl byddai fy ngwraig Kate wedi gadael os oeddwn i'n mynd allan eto," meddai gan chwerthin.
"Dwi'n poeni am fy iechyd hefyd - dwi just wedi bwyta croissants a kebabs am bum wythnos, felly dwi wir angen ychydig o lysiau nawr. Rhaid mynd gartref!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023