Dyn wedi marw ar ôl i gar daro becws yn Wrecsam

Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod car Vauxhall Corsa gwyn wedi taro ffenest flaen y siop

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw a dynes mewn cyflwr difrifol ar ôl i gar daro becws yn Wrecsam yn ystod oriau mân y bore.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mecws Gerrads Bakery ar Ffordd Rhuthun am 02:20 fore Llun.

Dywedon nhw fod car Vauxhall Corsa gwyn wedi taro ffenest flaen y siop.

Cafodd y dyn oedd yn gyrru a dynes oedd yn teithio yn yr un car eu cludo i Ysbyty Maelor y ddinas, ond bu farw'r dyn yn fuan wedi hynny.

Mae'r ddynes wedi cael ei chludo i ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol sy'n peryglu ei bywyd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mecws Gerrads Bakery ar Ffordd Rhuthun am 02:20 fore Llun

Pynciau cysylltiedig