Arestio dyn, 36, ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth yn ardal Wrecsam.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Wheat Close yng Ngwersyllt am 05:37 ddydd Sul ble fu farw dyn 52 oed.
Mae dyn 36 oed wedi ei arestio ac yn parhau yn y ddalfa, wrth i'r ymchwiliad i'r digwyddiad barhau.
Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael gwybod a'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol. Mae'r Crwner hefyd wedi cael gwybod.
'Digwyddiad ynysig'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rebecca Hughes: “Hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned leol ein bod yn credu mai digwyddiad ynysig yw hon, ac nid oes bygythiad i’r cyhoedd.
“Fodd bynnag, mae ein hymchwiliad yn ei gamau cynnar ac rydym yn parhau i fod â meddwl agored am amgylchiadau’r digwyddiad."
Apeliodd am unrhyw wybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng neu gloch drws o'r ardal ar 6 a 7 Ebrill.
Ychwanegodd DCI Hughes y bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal dros y diwrnodau nesaf.