Dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Nhyddewi
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 74 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn pwll dŵr yn Sir Benfro.
Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 16:00 ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu fod hynny'n dilyn adroddiad fod "dyn wedi mynd i drafferthion mewn dŵr mewn cyfeiriad yn Nhyddewi".
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi tynnu'r dyn o bwll dŵr (pond) oedd yn mesur 40mx20m, a 3m o ddyfnder.
Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr hefyd fynychu'r digwyddiad, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dywedodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.