Manic Street Preachers i chwarae yn Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Manic Street PreachersFfynhonnell y llun, Manic Street Preachers
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i'r band berfformio yn yr ŵyl ers 2017, wrth iddynt fynd ar daith o amgylch y DU

Bydd y Manic Street Preachers yn perfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2024.

Mae'r band o'r Coed Duon ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon, ac maen nhw hefyd wedi cyhoeddi gig yng Nghastell Caerdydd.

Maen nhw'n teithio gyda Suede, a fydd hefyd yn perfformio yn Eisteddfod Llangollen.

Y tro diwethaf i'r Manics berfformio yn Llangollen oedd yn 2017.

Mae'r band nawr yn gweithio ar eu 15fed albwm wedi i The Ultra Vivid Lament, a gyhoeddwyd yn 2021, gyrraedd brig y siartiau.

Fe fyddan nhw'n perfformio yn Eisteddfod Llangollen ar 28 Mehefin 2024, a Chastell Caerdydd ar 5 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig