Jac Morgan i fethu taith haf Cymru oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd
Bydd blaenasgellwr y Gweilch, Jac Morgan yn methu taith haf Cymru oherwydd anaf i linyn y gar.
Y bachwr Dewi Lake fydd capten y tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw herio De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.
Bydd mewnwr Caerdydd Ellis Bevan yn dechrau, gan ennill ei gap cyntaf dros Gymru.
Fel eilyddion, fe allai Eddie James, James Ratti a Jacob Beetham hefyd ennill eu capiau cyntaf.
Cafodd Ratti ei alw i'r garfan ddydd Mawrth yn sgil anaf Cory Hill.
Ben Carter a Matthew Screech o’r Dreigiau fydd yn dechrau yn yr ail reng.
Bydd blaenasgellwr Caerdydd James Botham, a gafodd ei ychwanegu at y garfan ddydd Llun, yn dechrau yn y rheng ôl ynghyd â Taine Plumtree ac Aaron Wainwright.
Er iddo golli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl ymuno â chlwb Kubota Spears yn Japan, bydd Liam Williams yn dechrau fel asgellwr.
Owen Watkin a Mason Grady fydd y canolwyr.
Dyw Ben Thomas ddim wedi ei gynnwys yn y garfan.
Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies
Mae’r newyddion ynglŷn â ffitrwydd Jac Morgan yn dipyn o ergyd, yn enwedig ar ôl iddo golli Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a'r gobaith yw y bydd blaenasgellwr y Gweilch yn gallu adennill ei ffitrwydd dros yr haf wedi ail hanner digon rhwystredig i’r tymor ers Cwpan y Byd.
Er gwaethaf absenoldeb Morgan, mae Warren Gatland yn gallu troi at un arall o gyd-gapteniaid Cymru y llynedd yn Ffrainc i gydio yn yr awenau.
Dyw chwaraewyr sy’n chwarae tu hwnt i Gymru ddim ar gael gan fod y gêm yn digwydd tu fas i’r ffenestr ryngwladol swyddogol, ac felly bydd hyn yn rhwystr arall ar gyfer gêm fydd yn dipyn o dalcen caled beth bynnag.
Mae presenoldeb Liam William, sy’n dychwelyd ar ôl treulio cyfnod yn Japan, i’w groesawu, ond bydd hi’n dipyn o fedydd tân i fewnwr ifanc Caerdydd Ellis Bevan, sy’n ennill ei gap cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol.
Does dim dwywaith y bydd hon yn her aruthrol i Gymru, yn enwedig i’r wyth blaen, a nifer o anafiadau - yn enwedig yn yr ail-reng - wedi cyfyngu opsiynau Warren Gatland.
I’r gwrthwyneb, mae’r Springboks yn dîm sefydlog, grymus, ac yn cynnwys 10 o'r 23 oedd yn rhan o’r garfan gipiodd Cwpan Web Ellis ym Mharis y llynedd.
Tîm Cymru i wynebu De Affrica:
Cameron Winnett; Liam Williams, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer; Sam Costelow, Ellis Bevan; Gareth Thomas, Dewi Lake, Henry Thomas, Ben Carter, Matthew Screech, Taine Plumtree, James Botham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Keiron Assiratti, James Ratti, Mackenzie Martin, Gareth Davies, Eddie James, Jacob Beetham
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023