Cyngor Môn yn pleidleisio dros gau ysgol leiaf yr ynys

Ysgol Gymuned Carreglefn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd disgyblion Ysgol Gymuned Carreglefn yn mynychu Ysgol Gymuned Llanfechell wedi gwyliau'r haf

  • Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi pleidleisio'n unfrydol dros gau ysgol gynradd leiaf yr ynys.

Bydd Ysgol Gymuned Carreglefn, ger Amlwch, sydd ag ond naw o ddisgyblion, yn cau yn swyddogol yr haf yma.

Yn ôl y cyngor mae'r gost fesul disgybl yn yr ysgol yn £17,200 - sef yr uchaf yng Nghymru a dros dair gwaith cost gyfartalog disgyblion cynradd y sir, sef £5,240.

Gyda'r disgwyl byddai nifer y disgyblion yn syrthio i bump y flwyddyn nesaf, bydd y disgyblion yn mynychu Ysgol Gymuned Llanfechell - sydd ychydig dros ddwy filltir i ffwrdd - o fis Medi 2024.

Ar hyn o bryd mae holl ddisgyblion Ysgol Carreglefn, sy'n bwydo Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth.

Roedd wyth llythyr o wrthwynebiad wedi eu derbyn, gyda saith o'r rheiny gan ddisgyblion presennol yr ysgol.

Cadw'r adeilad at fudd y gymuned

Clywodd cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cyngor Môn fore Iau fod ymdrechion ar y gweill i gadw'r adeilad ar agor at ddefnydd cymunedol.

Dywedodd is-arweinydd y cyngor, Gary Pritchard: "Mae ein diolch i gymuned yr ysgol am y ffordd barchus y maen nhw wedi ymdrin â'r broses, sydd ddim yn un bleserus."

Disgrifiad o’r llun,

Diolchodd y Cynghorydd Gary Pritchard aelodau o'r gymuned leol am y ffordd "barchus" y bu iddynt ymdrin â'r broses

Nid oedd Cyngor Cymuned Mechell wedi datgan gwrthwynebiad i gau'r ysgol ond roedd yr aelodau'n awyddus i gydnabod "safonau uchel yr addysg a dderbyniwyd dros 125 mlynedd" a datgan eu diolch i staff yr ysgol, "sydd wedi cynnal yr ysgol o dan amgylchiadau anodd".

"Mae’n bwysig fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y neuadd gymunedol ac mae’r Cyngor Cymuned yn cynnig ei gefnogaeth i’r pwyllgor rheoli a phobl leol.

"Mae newid demograffeg mewn ardaloedd gwledig yn sefyllfa drist iawn gan fod prinder o deuluoedd ifanc yn yr ardal ac mae’r gymuned lawer iawn tlotach oherwydd hyn."

Mae nifer y disgyblion yng Ngharreglefn wedi gostwng o 42 yn 2012, a 15 yn 2020.

Gan fod Carreglefn â llai na 10 o ddisgyblion mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi nad oedd angen i'r awdurdod gynnal ymgynghoriad cyffredinol cyn dilyn y broses ffurfiol i'w chau.

Pynciau cysylltiedig