Pontycymer: Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad
![Y lon lle roedd y gwrthdrawiad](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1056/cpsprodpb/a00e/live/7e1ad030-0ee9-11ef-bee9-6125e244a4cd.png)
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 6:30 fore Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn sir Pen-y-bont ar Ogwr fore Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4064 ym Mhontycymer, toc cyn 06:30.
Y beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad.
Er gwaetha ymdrechion timau meddygol, bu farw'r beiciwr modur.
Mae teulu'r person fu farw yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.