O Wcráin i Lanrug: Cyngerdd telynores i ddiolch am gartrefu ei mam

Alla a Veronika
Disgrifiad o’r llun,

Alla a Veronika

  • Cyhoeddwyd

Mae telynores ryngwladol sydd wedi perfformio yn neuaddau mwyaf adnabyddus y byd wedi perfformio yn Sefydliad Coffa Llanrug i ddiolch i’r gymuned am roi lloches i’w mam o Wcráin.

Ac mewn cyngerdd emosiynol fe berfformiodd Veronika Lemishenko ddeuawd gyda’i mam Alla.

Dywedodd Veronika, sy’n byw yng Nghroatia erbyn hyn, wrth Cymru Fyw ar ôl y cyngerdd: “Mae lot fawr o deuluoedd o Wcráin yn cael trafferth i weld ei gilydd heb sôn am chwarae cerddoriaeth gyda’i gilydd fel fi a Mam heddiw. Roedd gallu gwneud hynny a’i rannu, a’i roi i bobl yma - roedd yn rhywbeth arbennig.”

Disgrifiad o’r llun,

Alla, sy'n byw yn ardal Llanrug, a Veronika, sy'n byw yng Nghroatia, gyda'i gilydd eto yn chwarae deuawd

Roedd y cerddor wedi dod i Brydain i roi gwersi yn y Royal Birmingham Conservatoire a’r Royal Northern College of Music.

Ond cyn iddi deithio nôl i gyfandir Ewrop i berfformio yn yr Almaen, fe chwaraeodd mewn ambell leoliad yng ngogledd Cymru dros y penwythnos gan gynnwys perfformiad yn y Sefydliad Coffa - neu'r ‘Institiwt’ - yn Llanrug, ger Caernarfon.

Roedd wedi cynnig rhoi cyngerdd am ddim er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad gan fod aelodau agos o’i theulu - yn cynnwys ei mam - wedi cael eu cartrefu yno ar ôl dianc o'r rhyfel.

Ond er bod yr ystafell yn llawn, roedd y delynores yn gyfforddus gan ei bod wedi arfer perfformio ar draws y byd - gan gynnwys Berliner Philharmonic, Teatro La Fenice, Paris Philharmonic, Yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Esplanade yn Singapore.

Ffynhonnell y llun, BBC/Getty/Charles Platiau
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r lleoliadau mae Veronika wedi perfformio ynddyn nhw dros y blynyddoedd (clocwedd o'r chwith uchaf): Teatro La Fenice, Esplanade Singapore, Sefydliad Coffa Llanrug a'r Paris Philharmonic

Fe gafodd Veronika, sy’n canu’r delyn gyda Theatr Genedlaethol Croatia a Cherddorfa Symffonig Genedlaethol Wcráin, ei geni yn Karakiv - dinas ger y ffin gyda Rwsia sydd wedi ei difrodi yn ystod y rhyfel.

Mae'r delynoes, sydd wedi sefydlu elusen i helpu ei chydwladwyr, ar hyn o bryd yn casglu i brynu offerynnau i blant Wcráin ac roedd cyfle i bobl gyfrannu ar ddiwedd y cyngerdd.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r rhyfel fynd i'w thrydedd blwyddyn, mae ysgolion Karakiv yn cael eu hadeiladu o dan y ddaear

Meddai Veronika: “Roedd fy mam yn ddigalon ar y cychwyn ar ôl symud yma, ond mae’r bobl wedi trin Wcrainiaid - sy’n ddieithriaid - fel teulu, ac roeddwn i eisiau diolch.

"Rydyn ni’n hapus iawn i fedru casglu arian i’r elusen wrth gwrs, ond mae’n fwy na hynny; mae’n ffordd o ddiolch.”

Ychwanegodd Alla: “Mae Llanrug yn lle anhygoel - dwi’n hoffi bod yma. Mae rhai pobl mewn llefydd yn helpu am gyfnod ac wedyn yn anghofio - sy’n ocê, ond dwi’n teimlo’r gefnogaeth yn fan yma bob dydd.

“Dwi angen mynd yn ôl i Wcráin yn ystod yr hydref. Mae fy mam dal yno, ac mae hi’n 88, ac mae fy ngŵr yno, felly mae angen i mi fynd yno i'w gweld nhw.”

Disgrifiad o’r llun,

Veronika yn cymeradwyo'r gynulleidfa ar ôl iddi eu harwain i ganu Ar Hyd y Nos

Yn ogystal â'r ddeuawd gyda'i mam, fe berfformiodd Veronika nifer o ddarnau - gan gynnwys rhai traddodiadol Wcráin, Fflamenco, a chyfansoddiad gan y delynores Cymraeg Catrin Finch. Ac fe ofynnodd i’r gynulleidfa ganu Ar Hyd y Nos.

Meddai: “Roedd yn deimlad braf yma. Weithiau dydi pobl ddim yn canu llawer - ond roedd pawb yn canu fan yma yn syth. Ro’n i wrth fy modd - roedd fel cyfathrebu, fel sgwrs.”

Trefnwyd y cyngerdd gan gynghorydd Llanrug, Beca Brown.

“Roedd yn brofiad hynod emosiynol ac yn gwneud i rywun feddwl go iawn am beth sy’n digwydd yn yr Wcráin a pha mor bwysig ydi hi i ni fel cymuned i roi noddfa i bobl sy’n ffoi,” meddai.

“Roedd hefyd yn gyfle i’r gymuned yma ddod at ei gilydd i werthfawrogi’r ddawn anhygoel sydd gan Veronika ac i fedru rhoi i’w helusen, ac roedd teimlad cynnes iawn yn yr ystafell.

"Roedd lot o emosiwn a ro’n i’n teimlo’n freintiedig i glywed rhywun o’r safon yna ar ein stepen drws.”