Cymry yn helpu dioddefwyr PTSD Wcráin dros Zoom

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhian Price fu'n rhannu'r hanes gyda BBC Cymru

Mae dwy Gymraes yn arwain tîm rhyngwladol i gynnal sesiynau dros y we i helpu pobl Wcráin ddelio gydag effeithiau seicolegol y rhyfel.

Mae Dr Lisa de Rijk a Rhian Price yn gwnselwyr seicotherapi proffesiynol sy'n arbenigo mewn triniaeth gafodd ei datblygu i helpu dioddefwyr PTSD yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd.

Nawr maen nhw a chyd-weithwyr yn gwirfoddoli i hyfforddi cwnselwyr Wcráin yn y dechneg arloesol, gyda rhai ohonyn nhw yn barod wedi dechrau helpu eu cyd-wladwyr i ddelio gydag effaith trawma ar eu hiechyd meddwl.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi eu syfrdanu gyda'u hymroddiad ar ôl i un fenyw wneud rhan o'r cwrs yn ei char wrth iddi ffoi o'i gwlad i'r Swistir, ac un arall yn gwrthod gadael sesiwn Zoom i fynd i loches bomiau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Price a'i chyd-weithiwr Dr Lisa dr Rijk

Dr de Rijk, o Ddyffryn Peris, ddechreuodd y cyfan ar ôl siarad gyda seicotherapydd o Wlad Pwyl a gweithiwr mudiad teyrngarol yn Wcráin oedd yn gofyn am help.

Cysylltodd gyda chwnselwyr eraill oedd yn gymwys yn y driniaeth RTM (Reconsolidation of Traumatic Memories) a chreu tîm o 11 seicotherapydd o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gwlad Pwyl, Mecsico Newydd a Florida - gyda'r ddau o'r Unol Daleithiau yn gweithio drwy'r nos oherwydd y gwahaniaeth amser.

'Yr anrheg gorau allwn ni roi'

O fewn dim roedden nhw'n rhoi tridiau o hyfforddiant dwys i 28 o therapyddion o Wcráin.

Roedd nifer yn dal i fyw yn y wlad, rhai wedi ffoi i Wlad Pwyl, un yn gwneud rhan o'r cwrs dros Zoom wrth ffoi yn ei char i'r Swistir, ac un yn gorfod cael ei pherswadio i fynd i loches bomiau yn ystod y cwrs ar ôl i seiren rhybudd ddechrau canu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cwnselwyr yn cael ei hyfforddi yn Wcráin

Dywedodd Dr de Rijk: "Roedd y 28 wnaeth droi fyny ar y diwrnod cynta' yn edrych yn wyn, yn hollol shell shocked ac yn dangos dim mynegiant emosiynol, a wnaethon ni weithio efo nhw fel pobl broffesiynol.

"Yn y diwedd roeddat ti'n gweld y cynhesrwydd ynddyn nhw, roeddan nhw wedi cael eu hunaniaeth broffesiynol yn ôl oedd yn golygu eu bod wedyn yn gallu mynd nôl i'w gwaith bob dydd, ac i'w bywydau bob dydd efo'r sgiliau i helpu eu cyd-wladwyr. Dyna'r anrheg gorau oedden ni'n gallu rhoi iddyn nhw."

Mae Ms Price yn defnyddio'r dechneg RTM, gafodd ei datblygu gan y seicotherapydd Dr Frank Bourke o'r Unol Daleithiau, yn ei gwaith bob dydd yn ardal Bangor - techneg sy'n helpu pobl sy'n dioddef o PTSD yn sgil troseddau rhyw.

Mae'n dweud nad oedd y tîm wedi trafod sefyllfa'r unigolion o Wcráin yn ystod y cwrs er mwyn canolbwyntio ar y gwaith hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd fel Bucha, ger Kyiv, wedi eu heffeithio'n fawr gan yr ymosodiadau

"Roeddan ni wedi bod yn broffesiynol drwy gydol yr amser, ond ar ddiwedd y tridiau, pan oeddan ni'n ffarwelio roedd pobl yn dechrau sôn beth oedd wedi digwydd iddyn nhw," meddai.

"Wnaeth Lisa, oedd yn arwain, ddechrau mynd yn emosiynol, ac wedyn roedd pawb yn crio.

"Roedd pawb wedi blino, ond doedd neb eisiau gwasgu 'gadael' ar Zoom."

Gobaith am brosiectau tebyg

Mae rhai o'r 28 wnaeth gwblhau'r cwrs, fydd nawr yn cael sesiynau wythnosol dros y we am gyfnod, wedi dechrau helpu eu cyd-wladwyr yn barod, yn cynnwys rhai sy'n dioddef yn sgil blynyddoedd o wrthdaro gyda Rwsia yn nwyrain y wlad.

Ac mae tîm o academyddion yn King's College, Llundain, yn gwneud ymchwil i'r prosiect a allai arwain at gymorth tebyg yn y dyfodol.

Dywedodd Dr de Rijk, sy'n gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y brifysgol: "Rydyn ni eisiau dangos ein bod wedi gallu rhoi sgiliau newydd i bobl mewn gwlad sydd mewn rhyfel, fod y driniaeth yn effeithiol, ac yn bosib i'w gwneud heb arian gyda gwirfoddolwyr brwd, a'n bod wedi cael canlyniadau proffesiynol o'r holl beth."

Pynciau cysylltiedig