Cau rhan o'r A487 yn 'costio miloedd bob dydd' i gwmni cludo
- Cyhoeddwyd
Mae un o gwmnïau trafnidiaeth amlycaf Cymru'n dweud eu bod yn wynebu costau ychwanegol gwerth miloedd o bunnoedd bob diwrnod yn sgil cau un o brif ffyrdd de Gwynedd.
Bu'n rhaid cau'r A487 rhwng Corris a Minffordd am gyfnod ar ôl tirlithriad ar 7 Rhagfyr, ond oherwydd pryderon am "dir ansefydlog" uwchben y ffordd, cafodd ei chau eto rai dyddiau'n ddiweddarach.
Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher y bydd y lôn - y brif ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau - ynghau i deithwyr tan y flwyddyn newydd.
Mae'n golygu fod siwrnai oedd yn arfer bod yn chwe milltir bellach yn un 25 milltir, ac yn ychwanegu amser sylweddol i deithio yn yr ardal.
Mae gyrwyr yn cael eu dargyfeirio drwy'r A487, yr A489 a'r A470 trwy Lantwymyn a Mallwyd.
Mae cwmni Mansel Davies fel arfer yn teithio rhyw 20 gwaith y dydd ar hyd y ffordd.
Maen nhw'n dweud fod y cau wedi achosi anghyfleustra yn ogystal â chostau ychwanegol, gan honni nad yw'r dargyfeiriad wedi ei ddylunio ar gyfer cerbydau trwm.
"Mae'n achosi problemau mawr i ni," meddai Stephen Mansel Davies.
"Mae'n dda i wybod bod y gwaith yn dechrau nawr ond rydyn ni wedi bod yn disgwyl mor hir i gael atebion.
"Mae ganddon ni 20 llwyth y dydd yn mynd drwodd, sy'n ychwanegu i'r costau.
"Aeth un o'n lorïau yn sownd pan stopiodd rhywun o'i flaen, a bu'n rhaid i ni ei thynnu. Chwythodd y clutch ar un arall.
"Mae'r tanwydd a'r milltiroedd ychwanegol yn unig yn costio tua £1,500 y dydd i ni, heb gynnwys costau arall fel gosod clutch neu'r oedi ychwanegol.
"Mae hon yn ffordd bwysig... os fysen nhw wedi dechrau gweithio pan wnaethon nhw ei harolygu gyntaf, mae'n debyg y byddai'r gwaith wedi ei wneud erbyn hyn."
Does dim dyddiad wedi'i gadarnhau hyd yma ar gyfer ailagor y ffordd yn llawn, ond y disgwyl yw bydd mwy o waith yn digwydd yn y flwyddyn newydd yn amodol ar y tywydd.
Bydd Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn parhau gyda'r gwaith dros gyfnod y Nadolig i ailagor y ffordd dan reolaeth signal traffig cyn gynted ag y bydd yn ddiogel.
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, fod etholwyr a busnesau wedi mynegi "pryder dwfn dros effaith difrifol y cau ar eu bywoliaeth a gweithgareddau dyddiol".
"Mae'r tarfu a achosir gan y cau hwn yn peri gofid arbennig wrth i'r Nadolig agosáu yn gyflym, adeg pan fo busnesau'n dibynnu ar fasnach gyson ac unigolion angen mynediad sefydlog at wasanaethau," meddai.
Gan ategu sylwadau cwmni Mansel Davies, dywedodd nad oedd y dargyfeiriad yn "addas ar gyfer lorïau wedi'u llwytho'n llawn".
Ond dywedodd y cynghorydd sir lleol ei fod yn pryderu mwy am yr effaith ar bobl yr ardal wrth iddyn nhw deithio i'r gwaith neu'r ysgol.
Dywedodd John Pughe Roberts, sy'n cynrychioli ward Corris a Mawddwy ar Gyngor Gwynedd: "Dydi'r sefyllfa ddim yn ideal i neb, ond iechyd a diogelwch sy'n gorfod dod gyntaf.
"Mae'n ychwanegu rhyw chwarter awr i'r siwrna', ond mae'n bwysig bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn ac fod pawb yn saff."
'Diogelu'r ffordd i'r dyfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Diogelwch ar ein ffyrdd yw ein blaenoriaeth ac er mwyn sicrhau diogelwch ar yr A487 yn Rhiw Gigan ger Corris, mae gwaith draenio dros dro wedi dechrau a fydd yn caniatáu i'r ffordd ailagor gyda rheolaeth traffig yn y flwyddyn newydd.
"Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi anghyfleustra a diolchwn i yrwyr am eu hamynedd.
"Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud er diogelwch defnyddwyr y ffyrdd ac er mwyn diogelu'r ffordd i'r dyfodol."