'Meddwl bod gen i'r ffliw, cyn colli breichiau a choesau i sepsis'

Lily McGarry
Disgrifiad o’r llun,

Mae bywyd Lily McGarry wedi newid am byth yn dilyn y salwch

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwraig o Gaerdydd sydd wedi colli ei breichiau a'i choesau yn sgil sepsis wedi dweud ei bod yn meddwl mai'r ffliw oedd arni wrth iddi frwydro am ei bywyd.

Dywedodd Lily McGarry, sydd bellach yn 23, ei bod yn meddwl mai ffliw wythnos y glas oedd yn achosi iddi deimlo'n sal yn gynharach eleni.

Ond ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty, fe gafodd yr athletwraig ataliad ar y galon ddwywaith, cyn disgyn i goma.

Bellach mae hi'n gwella ar ôl llawdriniaethau i dynnu ei breichiau a'i choesau er mwyn achub ei bywyd.

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod, mae Lily, oedd yn astudio meddygaeth ei hun, yn dweud nad oedd hi wedi meddwl am sepsis.

"Pan 'da chi'n ifanc 'da chi'n meddwl, fel 'nes i, bod y math yma o beth ddim yn effeithio chi", meddai.

"'Da chi'n teimlo'n fel na allai pethau fel yma eich brifo, a does dim amser i boeni am eich iechyd oherwydd bod bywyd cymdeithasol i'w fyw."

Lily McGarry mewn gwisg triathlonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lily'n cystadlu mewn triathlon cyn y salwch

Mae Lily, sy'n wreiddiol o ynys Jersey, wedi ei disgrifio gan ei ffrindiau fel "athletwraig arbennig" oedd yn angerddol am nofio, rhedeg a bod wrth lan y môr.

Wrth iddi wella yn Ysbyty Llandochau Caerdydd, mae'n gwneud iddi ystyried pa mor sydyn y trodd ei bywyd arferol fel myfyriwr ar ei ben.

"O'n i'n teimlo 'chydig yn wael, ond o'n i'n dal i fynd efo fy mywyd bob dydd", meddai am y diwrnod ym mis Ionawr.

Ar ôl eistedd ar y soffa gyda'i ffrindiau, aeth i fyny i'r gwely am tua 23:00, gan feddwl y byddai noson dda o gwsg yn gwneud lles.

Ond yn ystod y nos fe waethygodd ei chyflwr, gydag un ffrind yn sylwi bod golau ei llofft ymlaen yng nghanol y nos.

Roedd Lily wedi cyfogi "ym mhobman", meddai, ac wrth i'w ffrindiau ei chludo i'r ysbyty, sylwodd ar frech oedd yn lledaenu dros ei chorff.

Doedd Lily ddim wedi llawn sylweddoli pa mor ddifrifol wael oedd hi, ond un peth mae'n ei gofio oedd y meddyg yn gofyn am rifau ffôn ei rhieni.

Cofio dim am dri mis

Ychydig iawn mae'n ei gofio wedyn, nes tua thri mis yn ddiweddarach - ym mis Ebrill.

Doedd Lily ddim yn sylweddoli iddi gael ataliad ar y galon nes iddi ddarllen post gan ei chwaer - rhywbeth "eithaf swreal", meddai.

"Dwi ddim yn credu mod i wedi deall pa mor ddifrifol oedd beth ddigwyddodd tan tua Mai pan o'n i'n dechrau edrych ar fy nghorff."

"Ges i wybod mod i wedi mynd i sioc septig yn sydyn.

"Roedd pwysau fy ngwaed yn isel iawn, ac o fewn 24 awr o'n i wedi cael dau ataliad ar y galon a diagnosis o septicaemia meningococcal."

Lily McGarry yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lily yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i Jersey i weld ei theulu a chael amser i ddod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd

Er bod y salwch wedi newid bywyd Lily am byth, mae hi'n cadw meddylfryd positif yn wyneb yr heriau.

"Dwi'n ffodus mod i wedi colli fy mreichiau a choesau mewn oes ble mae lot o dechnoleg", meddai.

"Dwi wedi bod yn hoff o nofio erioed a bod yn y dŵr, ac mae'n gyffrous meddwl am y teimlad o ryddid o fod heb ddisgyrchiant yn y dŵr.

"Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu digwydd yn fuan."

Fe fydd Lily'n mynd yn ôl i Jersey ym mis Tachwedd, ac mae'n edrych ymlaen at weld ei nain a'i thaid, mynd i'r traeth a chael cyfle i "fyfyrio ar beth sydd wedi digwydd".

Mae ei ffrindiau a theulu hefyd yn casglu arian i helpu i roi pob cyfle posib iddi, a dywedodd Lily bod teimlo'r gefnogaeth o Gymru, Jersey ac ymhellach yn emosiynol.

Dywedodd un o'i ffrindiau, Ella Jennings, bod Lily yn berson fyddai'n mynd o'i ffordd i helpu eraill.

"Ers ei bod hi'n sâl mae hi'n dal i fod fel yna, a mwy, mae hi mor bositif", meddai.

"Pob tro dwi'n ei gweld hi mae hi'n gwella ac yn meddwl am y dyfodol, mae hi mor benderfynol."

Ychwanegodd: "A bod yn onest mae hi'n anghredadwy, a phob tro dwi'n ei gweld hi mae hi'n fy synnu hefo'i hagwedd a'i golwg ar fywyd."

Beth ydy sepsis?

Mae sepsis yn digwydd pan mae'r corff yn ymateb yn anghywir i haint, gan atal organau'r corff rhag gweithio'n iawn.

Mae'n gallu achosi pwysau gwaed isel iawn ac achosi niwed i'r ysgyfaint, arennau, iau ac organau eraill.

Yn ôl UK Sepsis Trust mae'r salwch yn gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed.

Un o'r prif heriau yw bod y symptomau'n gallu amrywio'n fawr o berson i berson, gan ei wneud yn anodd adnabod ar adegau.

Mae'r ymddiriedolaeth yn cynghori pobl i fod yn ymwybodol o symptomau fel:

  • Bod yn ddryslyd neu siarad yn aneglur;

  • Poen difrifol yn y cyhyrau a chymalau;

  • Pasio dim dŵr mewn diwrnod;

  • Trafferth mawr cael eich gwynt;

  • Teimlo eich bod yn mynd i farw;

  • Brech ar y croen, neu groen gwelw iawn.

Pynciau cysylltiedig