Dod yn bencampwr seiclo ar ôl cael canser a sepsis

Mi ddaeth Sam Woodward i’r brig mewn cystadleuaeth yn Llandrindod a chael ei goroni’n bencampwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Ddeunaw mis ers goroesi math prin o ganser, mae dyn ifanc o Wynedd wedi disgrifio'r profiad o gael ei goroni'n bencampwr seiclo Cymru fel un "hollol amazing".
Bu'n rhaid i Sam Woodward, 19 o Waunfawr, ddysgu sut i gerdded eto ar ôl cael llawdriniaeth fawr ar ei goes yn 2023.
Ond gyda chefnogaeth ei glwb seiclo, mae o'n gobeithio cael digon o noddwyr i droi'n broffesiynol.
Mi ddaeth Sam i’r brig mewn cystadleuaeth yn Llandrindod fis yma a chael ei goroni’n bencampwr Cymru.
Mi ddechreuodd seiclo ar hyd lonydd ei fro ar ôl ymuno â chlwb beicio Egni Eryri rai blynyddoedd yn ôl.

Cafodd Sam lawdriniaeth am fath o ganser ar ei goes 18 mis yn ôl
Dywedodd: “Nes i orffen job fi fel saer coed i concentratio mwy ar seiclo ac ers hynna dwi di cael lle ar Dîm PB Performance a rili wedi gallu focusio ar seiclo lot mwy.
“Ma di galluogi i fi rasio lot mwy a rhoi lot o siawns da imi ddangos fy hun.”
Wrth ddod at y llinell derfyn fe lwyddodd i arwain y grŵp o dros 500 metr gan groesi'n gyntaf.
“Oedd o’n amazing... dwi di bod yn dreamio am hwnna ers blwyddyn rŵan."
“Dwi jest yn lyfio rasio, reidio beic fi... y rhyddid ohono a da chi rili gorfod bod reit cryf i fynd allan bob dydd am rhyw ddwy neu bump awr yn y gaeaf”.

Mi ddaw llwyddiant Sam ddeunaw mis yn unig ar ôl derbyn llawdriniaeth am fath o ganser - leiomyosarcoma - a dyfodd ar ei goes.
Eglurodd: “Nath hynna roi fi allan am ychydig o fisoedd ond ar ôl dau operation nes i hefyd gal sepsis ar ôl hynna, ac oedd hynna yn awful”.
Wedi llawdriniaethau a ffisiotherapi, mi ddechreuodd fynd yn ôl ar ei feic ond eglurodd fod hynny'n "rili tough”.
“Nes i orfod dysgu sut i gerdded eto a wedyn reidio beic am hwyl”.

Dywedodd Alun Williams o glwb beicio Egni Eryri bod y tîm yn falch iawn o lwyddiant Sam
Wrth gryfhau, fe dderbyniodd gefnogaeth gan ei glwb lleol yn Eryri.
Mae clwb Egni Eryri wedi cael llwyddiant arall eleni wrth i un o aelodau eraill y clwb, Gareth McGuiness gael ei goroni’n bencampwr byd yn y UCI Gran Fondo, gan guro 250 o gystadleuwyr eraill.
Yn ôl un o’r selogion, Alun Williams mae’r tîm yn falch iawn o lwyddiant y ddau.
“Mae beth mae Sam wedi neud eleni ‘di bod yn dda iawn ar ôl bod efo’i salwch," meddai.
“Ti'n gorfod tynnu dy gap iddo bod o wedi bod mor llwyddiannus."

Mae Osian Evans yn aelod o glwb beicio Egni Eryri
Ategu hynny wnaeth Osian Evans, 24 sydd hefyd yn seiclo gyda’r clwb.
“Ma’n amazing, mae jest yn neis i bobl cael gweld pa mor galed mae pobl yn gweithio yn y clwb a bod ni’n cael llwyddiant allan ohono”.

Sam Woodward gydag aelodau eraill o glwb Egni Eryri
Gobaith Sam ydi ceisio cael digon o noddwyr iddo fedru troi'n broffesiynol.
“Mae gennai lot o goals at flwyddyn nesaf, jest cario mlaen i progressio a cario mlaen i joio”, meddai Sam.
“Dwi’n 100% committed.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024