Posib bod staff wedi trin cleifion Covid heb PPE addas - Gething
- Cyhoeddwyd
Mae’n bosib bod staff a fu’n trin cleifion Covid yn ystod y pandemig wedi gwneud hynny heb gyfarpar diogelu personol (PPE) addas, yn ôl cyn-weinidog iechyd Cymru.
Mae Vaughan Gething wedi bod yn rhoi tystiolaeth i fodel yr ymchwiliad Covid ar sut wnaeth gwasanaethau iechyd y DU ymdopi â’r pandemig.
Dywedodd er nad oedd Cymru wedi rhedeg allan ar lefel genedlaethol, roedd “rhai heriau real iawn o ran dosbarthu”.
Clywodd yr ymchwiliad fod adran dylunio a thechnoleg ysgol wedi gwneud mygydau a hylif llaw i'w rhoi i fferyllydd.
Dywedodd grŵp undebau llafur y TUC wrth yr ymchwiliad fod yn rhaid i rai gweithwyr droi at wisgo bagiau bin.
'Pobl ddiegwyddor'
Dywedodd Mr Gething fod y pentwr stoc cyn-bandemig o gyfarpar diogelu personol yn annigonol ar gyfer coronafeirws.
Clywodd yr ymchwiliad fod stociau cynnar wedi rhedeg allan yn gynt na'r disgwyl, a bu'n rhaid taflu peth offer diogelu llygaid.
Roedd "pobl ddiegwyddor" hefyd yn ceisio gwneud arian allan o gynnig cyfarpar annigonol, meddai.
Gofynnodd cwnsler yr ymchwiliad Jacqueline Carey i’r cyn-weinidog iechyd, a wasanaethodd fel prif weinidog yn ystod rhan o 2024 ac sydd bellach ar y meinciau cefn, a oedd gan GIG Cymru “ddim y PPE cywir, neu nad oedd ganddo ddigon o’r PPE cywir”.
“Rwy’n meddwl bod ychydig o’r ddau,” meddai Mr Gething.
Roedd stociau pandemig o offer diogelu wedi'u cynllunio i bara 15 wythnos.
Dywedodd Mr Gething fod adroddiad o fis Ebrill 2021 a oedd yn edrych ar fis Mawrth, a gafodd ei gyflwyno i’r ymchwiliad, yn dangos nad oedd wedi para.
Roedd stociau menig yn para wythnos a hanner.
“Unwaith i ni sicrhau cyflenwad menig, roedd ffedogau yn broblem fwy,” meddai Mr Gething, gan ddweud ei fod wedi cymryd “rhan sylweddol o fy amser fel gweinidog”.
Dywedodd fod yna “lawer iawn o bobl ddiegwyddor ['shysters'] yn ceisio gwneud arian allan o offer annigonol”
“Roedd y byd i gyd eisiau mwy, ac roedd rhai pobl yn gweld hynny fel cyfle busnes diegwyddor.”
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Dywedodd e-bost gan ymgynghorydd yn Ysbyty’r Tywysog Charles ar 24 Mawrth 2020 fod “anhrefn llwyr yn ein hysbyty, dim amddiffyniad i nyrsys, morâl isel iawn”.
Dywedodd yr ymgynghorydd eu bod yn cael cais i ofalu am gleifion sy'n cael eu derbyn i wardiau orthopedig gan feddygon â symptomau anadlol. Nid oedd mygydau “yn cael eu rhyddhau”, medden nhw.
Gofynnodd Jacqueline Carey i Mr Gething: “Ydych chi’n derbyn ei bod hi’n ymddangos ar adegau yng ngham un bod gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi trin cleifion Covid-19 â PPE annigonol a allai fod mewn perygl i’w hiechyd eu hunain?”
“Mae gen i ofn bod hynny'n bosib, ydy.”
Amddiffynnodd olynydd Mr Gething fel gweinidog iechyd, y prif weinidog presennol Eluned Morgan, y penderfyniad i beidio â chynnal ymchwiliad cenedlaethol i heintiau a gafwyd mewn ysbytai.
Wrth roi tystiolaeth brynhawn Mercher, dywedodd Eluned Morgan fod byrddau iechyd wedi ymchwilio i fwy na 18,630 o achosion unigol ac "na allent fod wedi bod yn fwy trylwyr."
Dywedodd ei bod yn anodd nodi achos gan fod yna "lawer o achosion."
Gofynnwyd iddi a oedd yr awgrym y gallai byrddau iechyd fod yn wynebu hawliadau sifil o hyd at £69m gan gleifion a theuluoedd yn ffactor, ond dywedodd "nad oedd yn ffocws i mi" a'i fod yn ymwneud â dysgu gwersi.
Pan ofynnwyd iddi’n ddiweddarach am gyfyngiadau ymweld, dywedodd Eluned Morgan fod rhai achosion lle gallent fod wedi gwneud pethau’n wahanol, o ran cleifion mamolaeth a chanser.
Dywedodd y prif weinidog wrth yr ymchwiliad “pe bawn i’n cael fy amser eto” byddai hi’n “bendant” wedi gweithredu’n gynt i newid y canllawiau ynghylch partneriaid geni yn ymweld â’r ysbyty.
Diweddarwyd y canllawiau ar 9 Mai 2022 fel bod partneriaid geni i gael eu cyfrif fel partneriaid mewn gofal yn hytrach nag ymwelwyr.
Roedd hyn fwy na blwyddyn ar ôl i hyn gael ei wneud yn Lloegr.
'Angen i bobl gael eu dwyn i gyfrif'
O ran ailddechrau llawdriniaeth arferol yn gynharach, cyfaddefodd y gallai hyn fod wedi'i gynllunio'n gynharach ond nid oedd yn siŵr y gallai fod wedi'i weithredu'n gynt o ystyried y pwysau oedd ar y system.
Dywedodd iddi ymweld â chanolfan orthopedig heb ei gynllunio a chanfod bod 13 o lawfeddygon ddim yn gweithio.
"Doedden nhw ddim yno. Felly, nid oedd y monitro, y rheolaeth yn digwydd yn y ffordd y dylai fod wedi bod yn digwydd."
Dywedodd fod angen i bobl gael eu dwyn i gyfrif ac ni chafodd eglurhad boddhaol a chymerodd gamau wedyn i'w gwneud yn glir bod yn rhaid "i bethau newid".
Dywedodd hefyd mai dim ond 172 o welyau preifat oedd ar draws Cymru gyfan felly nid oedd hyn yn rhoi llawer o gapasiti i ddelio â'r ôl-groniad, er eu bod yn defnyddio rhai ohonynt a hefyd gwelyau preifat yn Lloegr.
Roedd y sefyllfa yn GIG Lloegr yn wahanol, lle’r oeddent yn gallu clirio 18% o’u hôl-groniad drwy ddefnyddio’r sector preifat, meddai.