Data am farwolaethau Covid ymhlith staff iechyd 'ar goll'
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyfaddef bod rhywfaint o ddata ynglŷn â nifer y marwolaethau ymhlith gweithwyr iechyd a gofal yn ystod ton gyntaf Covid-19 wedi ei golli.
Clywodd Ymchwiliad Covid y DU ddydd Mawrth fod mwy na 1,000 o farwolaethau Covid gafodd eu cofnodi ddim yn nodi os oedd yr unigolyn yn weithiwr allweddol.
Dywedodd yr Athro Fu-Meng Khaw o ICC hefyd fod yna "fwlch amlwg" yn y data ar sut yr oedd Covid yn effeithio ar leiafrifoedd ethnig.
Roedd ICC yn defnyddio meddalwedd oedd yn adnabod cefndiroedd ethnig pobl yn seiliedig ar eu henwau - system a gafodd ei disgrifio fel un "cyfyng" yn ystod yr ymchwiliad.
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Ym mis Ebrill 2020 fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ddechrau defnyddio system i gasglu gwybodaeth am farwolaethau Covid fyddai'n gynt na'r cofnodion marwolaethau swyddogol.
Roedd hynny'n galluogi i'r rhai hynny oedd yn arwain yr ymateb i'r pandemig i gael y manylion hynny yn ddyddiol.
Roedd y system yn gofyn i fyrddau iechyd gwblhau taflen electroneg wedi pob marwolaeth o ganlyniad i Covid, oedd yn cynnwys blwch i nodi os oedd y person yn weithiwr allweddol neu ddim.
'Data sylweddol ar goll'
Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad ddydd Mawrth, dywedodd yr Athro Khaw fod "data sylweddol ar goll" ynglŷn â nifer y marwolaethau Covid ymhlith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
"Drwy gydol y pandemig roedd hi'n glir bod elfennau o'r taflenni gwybodaeth oedd ddim yn cael eu cwblhau bob tro. Mi'r oedd yna wybodaeth ar goll.
"Er enghraifft, yn y 6,514 o farwolaethau a gafodd eu cofnodi yn defnyddio'r system yma, doedd dros 1,000 o'r rheini ddim yn nodi os oedd y person yn weithiwr allweddol neu ddim."
Dywedodd yr Athro Khaw fod tua 17% o'r data ar goll.
O'r ymatebion y gwnaeth ICC eu derbyn, cafodd 36 o farwolaethau ymhlith gweithwyr allweddol eu cofnodi - ond mae'r Swyddfa Ystadegau bellach yn amcangyfrif bod tua 123 o weithwyr iechyd a gofal wedi marw o Covid yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
Cafodd yr Athro Khaw ei holi hefyd ynglŷn â diffyg data am effaith y pandemig ar leiafrifoedd ethnig.
Doedd data ethnigrwydd ddim yn cael ei gasglu yn gyson, ac felly roedd ICC yn dibynnu ar feddalwedd oedd yn adnabod ethnigrwydd person yn seiliedig ar eu henw.
Clywodd yr ymchwiliad bod y feddalwedd yn aml yn tan-gyfrif y boblogaeth o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Fe gyfaddefodd yr Athro Khaw nad oedd unrhyw systemau yn cael eu defnyddio i ddeall yr effaith ar wahanol grwpiau, a bod yna "fwlch amlwg" yn y data.