Ymchwiliad Covid: Beirniadu systemau 'dryslyd' Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu'n chwyrn am y ffordd y gwnaethon nhw baratoi ar gyfer pandemig Covid-19.
Mae adroddiad gan yr Ymchwiliad Covid-19 - a gafodd ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i'r pandemig - yn dweud fod systemau yng Nghymru yn "ddryslyd" ac yn cael eu rhwystro gan "gymhlethdod diangen".
Mewn adroddiad damniol, mae cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn dweud fod Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig wedi "methu yn eu dyletswydd i warchod y cyhoedd".
Mae Prif Weinidog Cymru Vaughan Gething wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion yn llawn.
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
Yn yr adroddiad cyntaf sy'n edrych ar barodrwydd y DU ar gyfer y pandemig, mae'r Farwnes Hallett yn dweud fod strategaeth pandemig Llywodraeth y DU wedi ei ysgrifennu yn 2011, gan nodi ei fod "wedi dyddio ac nad oedd yn ddigon hyblyg".
Ychwanegodd "na chafodd y strategaeth erioed ei phrofi yn iawn" a bod "syniadau sylfaenol y strategaeth honno wedi cael eu hanwybyddu yn y pendraw".
"Mae'r prosesau, y cynllunio a'r polisïau wedi methu'r bobl ym mhob un o'r pedair gwlad," meddai.
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen diwygio sylfaenol o ran y ffordd y mae Llywodraethau'r DU a'r gwledydd datganoledig yn paratoi ar gyfer argyfyngau o'r fath.
Awgryma’r ddogfen bod angen symleiddio systemau, cael gwared â biwrocratiaeth ddiangen a chyflwyno dull newydd o asesu risgiau.
Dywedodd y Farwnes Hallet fod yr adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid cael cynllun clir ar gyfer y DU gyfan - sy'n dysgu gwersi o'r gorffennol ac yn ystyried gwahanol anghydraddoldebau.
'System hynod ddryslyd'
O ran yr ymateb yng Nghymru yn benodol, mae'r adroddiad yn cyfeirio at dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i'r ymchwiliad gan Dr Andrew Goodall - pennaeth y gwasanaeth sifil yng Nghymru.
"I weinyddiaeth sy'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod mor effeithlon oherwydd ei maint cymharol fach, ac sy'n disgrifio ei hun fel un sy'n gweithio yn effeithiol 'dan un to' - doedd y gwirionedd ddim yn cyd-fynd â hynny.
"Roedd y system yn hynod ddryslyd.
"Doedd yr ymchwiliad ddim wedi eu hargyhoeddi gan esboniad Dr Goodall, wnaeth awgrymu fod y system yn gwneud mwy o synnwyr i'r rhai o fewn y weinyddiaeth nac i'r rhai sy'n edrych mewn.
"Cafodd y cyfle i greu system glir a deinamig yng Nghymru ei amharu gan gymhlethdod diangen."
Dywedodd Vaughan Gething fod cyhoeddi'r adroddiad cyntaf yn "foment bwysig" i deuluoedd y rhai a gollodd anwyliaid ac i weithwyr iechyd rheng flaen.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi i weithio'n agos gyda llywodraethau eraill y DU, a'u bod am "adeiladu ar hynny mewn ymateb i'r adroddiad yma".
Dywedodd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer, fod yr adroddiad yn cadarnhau "nad oedd y DU wedi paratoi'n ddigonol ar gyfer Covid-19" a bod polisïau wedi "methu pobl y DU".
"Bydd yr atgofion a gafodd eu corddi yn ystod yr ymchwiliad yn anodd iawn i nifer o bobl ddelio â nhw, ac rwy'n cydymdeimlo'n arw gyda phawb a gollodd anwyliaid yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Fe ddangosodd y pandemig mai asgwrn cefn Prydain yw'r bobl sy'n gwasanaethu - gweithwyr hanfodol fel gofalwyr, nyrsys, parafeddygon, glanhawyr ac athrawon. Roedden nhw'n rhoi eu hunain yn llygad y storm.
"Dylai diogelwch a lles y wlad wastad fod yn flaenoriaeth, ac mae'r llywodraeth yma wedi ymroi i ddysgu gwersi gan yr ymchwiliad a sicrhau bod mesurau gwell yn eu lle er mwyn helpu ni baratoi yn well ar gyfer effaith unrhyw bandemig posib yn y dyfodol."
'Dim cynllun clir'
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r adroddiad yn "adlewyrchiad damniol o'r ffordd y gwnaeth Llafur Cymru ddelio gyda'r pandemig".
Dywedodd arweinydd grŵp y blaid yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'n gwbl glir yn yr adroddiad yma nad oedd gweinidogion Llafur syniad ynglŷn â pharodrwydd Cymru ar gyfer pandemig o'r fath.
"Mae'r dystiolaeth 'da ni wedi ei glywed yn dangos nad oedd Llywodraeth Cymru wedi paratoi yn ddigonol, a doedd dim cynllun clir.
"Mae angen ymchwiliad Covid penodol i Gymru er mwyn gwneud yn iawn am y camgymeriadau amlwg yma."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes bwriad i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru, ond mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi cael cais i edrych ar wendidau ym mharatoadau Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Galw am ymchwiliad penodol i Gymru wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Mabon ap Gwynfor hefyd.
Dywedodd y byddai'r adroddiad yn "anodd i deuluoedd y rhai wnaeth golli anwyliaid i Covid ei ddarllen" a'i fod yn cydymdeimlo gyda nhw.
"Mae yna ddarlun yma o systemau cymhleth, diffyg atebolrwydd, gwaith pwysig oedd ddim yn cael ei orffen a theimlad cyffredinol o fod yn orhyderus wrth baratoi.
"Mae'n bryder mawr i ni wrth weld nad yw rhai o'r gwersi wedi cael eu dysgu."