Ymchwiliad Covid: Staff Glangwili yn 'crio mewn cwpwrdd'
- Cyhoeddwyd
Mae uwch feddyg wedi disgrifio'r heriau mawr wrth ddelio â Covid yn ysbyty hynaf Cymru, gydag un aelod o staff yn adrodd eu bod wedi crio mewn cwpwrdd o dan y grisiau.
Dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dr Philip Kloer wrth ymchwiliad Covid y DU fod gofal dwys yn ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi’i baratoi ar gyfer 192 o gleifion difrifol wael - er mai dim ond 11 gwely sydd yno.
Er bod yr ysbyty 65 oed wedi wynebu llai o alw nag a ofnwyd yn gyntaf ac wedi cynnal gofal nyrsio critigol un-i-un drwyddo draw, roedd yn rhaid i staff fod yn “anhygoel o greadigol” i greu lle a gweithio’n ddiogel.
Dywedodd Dr Kloer eu bod wedi llwyddo i adleoli 600 staff i ofal ysbyty acíwt a recriwtio 1,100 arall - gan gynnwys o blith manwerthu a lletygarwch - i ddarparu rolau cymorth.
Staff dan bwysau anferthol
Dywedodd Dr Kloer, cyn-gyfarwyddwr meddygol a fu hefyd yn feddyg anadlol, fod yr ysbyty wedi'i agor ym 1959 a bod awyru gwael iawn yno a dim aerdymheru (air conditioning).
Byddai bodloni canllawiau diogelwch Covid ynghylch gofod o gwmpas gwelyau wedi golygu colli 113 allan o 388 o welyau yn yr ysbyty.
Ond fe wnaethon nhw greu waliau dros dro i helpu i wahanu cleifion.
Cafodd 113 o welyau eraill eu darparu mewn ysbyty maes mewn canolfan hamdden leol a chanolfan fowlio "a oedd yn edrych ac yn teimlo'n union fel ysbyty".
Ond roedd Dr Kloer yn cydnabod bod staff yn gweithio dan bwysau aruthrol.
Dywedodd Dr Kloer fod profiadau a ddaeth i'r amlwg mewn arolwg staff yn 2021 "yn anodd iawn i'w darllen".
Canfuwyd bod pryder wedi bod ynghylch yr amgylchedd gwaith, gyda rhai yn cael brechdanau yn eu ceir yn ystod egwyliau ac un yn dweud eu bod wedi crio mewn cwpwrdd o dan y grisiau.
Roedd prinder toiledau, ystafelloedd gorffwys a chyfleusterau staff eraill.
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
Cyfaddefodd y gallai fod problemau hefyd ynghylch cyfathrebu ynglŷn â sut i gael mynediad at y stoc o PPE ar ôl i aelod o staff gwyno am gael ei “cheryddu” am archebu fisorau.
Dywedodd Dr Kloer hyd y gwyddai, er bod heriau yn ystod haf 2020, ni chwympodd stociau PPE o dan gyflenwad pythefnos erioed.
Yr amcangyfrif cynnar yn y pandemig oedd y gallai Glangwili fod wedi wynebu’r angen i letya 192 o gleifion gofal dwys.
Ond dim ond 11 gwely a staffio ar gyfer 16 posib oedd ganddyn nhw, tra dywedodd Dr Kloer mai dim ond cyflenwad o draean o'r peiriannau anadlu y gallent fod eu hangen a gafodd eu cynnig iddynt.
Dywedodd ei fod yn "senario bron yn amhosibl" i'w ystyried ond ni ddaeth yr achos gwaethaf i'r amlwg.