Biliau ynni i gynyddu'n fwy na'r disgwyl fis Ebrill

- Cyhoeddwyd
Mae'r cap ar brisiau ynni wedi codi am y trydydd tro yn olynol - 6.4% o gynnydd o 1 Ebrill.
Mae'r cynnydd yn uwch na'r hyn oedd yn cael ei ddisgwyl, a bydd yn rhoi mwy o bwysau ariannol ar bobl.
Mae'r newid yn golygu y bydd cartrefi sy'n defnyddio swm arferol o nwy a thrydan yn gweld eu bil blynyddol yn codi £111 y flwyddyn - neu £9.25 y mis - gyda'r bil blynyddol yn codi i £1,849.
Mae'r cap, sy'n rhoi terfyn ar faint mae modd i'r cyflenwyr godi am bob uned o drydan, yn effeithio ar filiau 22 miliwn o gartrefi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r cynnydd yn fwy na'r disgwyl, gyda dadansoddwyr wedi rhagweld y byddai 5% o gynnydd, cyn y cyhoeddiad ddydd Mawrth.
Dywedodd y rheoleiddiwr Ofgem mai chwyddiant sydd y tu ôl i'r cynnydd diweddaraf, yn ogystal â chostau cyfanwerthu.

Mae'r cynnydd yn golygu y bydd prisiau 9.4% - neu £159 y flwyddyn - yn uwch na'r un cyfnod y llynedd.
Dywed Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem, fod y prisiau yn parhau i fod yn her i nifer o bobl a'i fod yn derbyn nad yw cynnydd arall am gael ei groesawu.
Dywedodd y dylai cwsmeriaid ystyried "newid neu osod tariffiau" lle fo' hynny'n bosib er mwyn ceisio lleihau'r gost a "rhoi sicrwydd" am daliadau sydd i ddod.
Mae biliau 50% yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig, ond yn parhau i fod yn is na'r twf a welwyd yn 2022.
Yn ôl arolwg barn gan fudiad National Energy Action a YouGov, 37% o oedolion yng Nghymru sy'n dweud eu bod wedi medru fforddio biliau gwres yn gyfforddus yn ystod y tri mis diwethaf.
'Pryder i bobl hŷn Cymru'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod y cynnydd "yn sicr" yn bryder.
Dywed Rhian Bowen Davies: "Mae'r cap yn dod i mewn yr un pryd mae cynnydd mewn biliau dŵr, treth cyngor - dyw creisis costau byw heb fynd i ffwrdd i bobl hŷn.
"I'r rheiny sydd ar incwm sefydlog, megis pensiwn, ma' gofidion mawr ynglŷn â sut maen nhw am dalu'r biliau yma."
Ychwanegodd fod y ffaith bod pobl hŷn wedi colli'r taliad tanwydd yn golygu bod nifer yn defnyddio llai o egni, gyda "rhai pobl ddim yn gwresogi eu cartrefi nhw o gwbl", ac eraill "yn penderfynu bwyta llai pob dydd neu yn gwresogi un stafell yn eu cartrefi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023