Bachgen 13 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar dir ysgol dros nos

Ysgol Gynradd MelinFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd Melin wedi ailagor ddydd Iau wedi'r "digwyddiad trasig"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth bachgen 13 oed yng Nghastell-nedd.

Bu farw'r bachgen yn dilyn digwyddiad ar dir Ysgol Gynradd Melin yn ystod yr oriau mân fore Mercher.

Roedd yr ysgol ar gau am weddill y dydd ond mae hi wedi ailagor erbyn dydd Iau, meddai'r pennaeth mewn llythyr i rieni.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd, yn ôl Heddlu'r De.

Pynciau cysylltiedig