Pedair o ffyrdd Caerdydd i newid yn ôl i 30mya

Arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd y newid yn gwella llif traffig a diogelwch

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu newid terfyn cyflymder pedair ffordd allweddol i mewn ac allan o'r brifddinas yn ôl i 30mya.

Maen nhw'n gobeithio y bydd addasu'r terfynau cyflymder o 20mya yn gwella llif traffig a diogelwch.

Ym mis Medi 2023 cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya Cymru eu newid i derfyn 20mya fel rhan o gynllun dadleuol gan Lywodraeth Cymru.

Ond yn dilyn ymateb cyhoeddus, fe gyhoeddodd y llywodraeth adolygiad o'r terfyn 20mya fis Gorffennaf 2024, gan ganiatáu i gynghorau ddychwelyd rhai ffyrdd i derfynau uwch.

Pa ffyrdd sy'n newid?

Heol Casnewydd – Bydd pob rhan o Heol Casnewydd - ac eithrio rhan o'r lôn gerbydau sy'n rhedeg y tu allan i Ysgol Gatholig Illtud Sant - yn dychwelyd i 30mya.

Rhodfa'r Gorllewin – Bydd rhan fach o'r ffordd hon i'r gorllewin o Bont Afon Taf ac i'r gyffordd â Heol Caerdydd/Heol Llandaf yn dychwelyd i 30mya.

Ffordd y Cefnfor – bydd rhan o'r ffordd hon, o'i chyffordd â Beignon Close i Ffordd Rover, yn dychwelyd i 30mya.

Heol Hadfield – bydd y ffordd hon, rhwng y gyffordd â Heol Lecwydd a Heol Penarth, yn dychwelyd i 30mya.

Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn adolygiad a gwrando ar farn y cyhoedd, cwmnïau bysiau, cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol, Aelodau o'r Senedd a rhanddeiliaid eraill y ddinas.

Arwydd 20mya ger fforddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ystadegau yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder gorfodol o 20mya

Ym mis Ionawr eleni, cafodd ystadegau eu cyhoeddi oedd yn dangos bod tua 100 yn llai o bobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder gorfodol o 20mya.

Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn ystyried canlyniadau ymgynghoriad pedwar mis lle buon nhw'n gofyn i drigolion pa ffyrdd ddylai ddychwelyd i 30mya a'u rhesymau dros hynny.

Roedd 933 o geisiadau wedi'u gwneud i newid y terfyn cyflymder yn ôl i 30mya.

'Nid yw'r egwyddorion sylfaenol yn newid'

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr aelod cabinet dros drafnidiaeth: "Nid yw'r egwyddorion sylfaenol yn newid, dylai terfyn cyflymder o 20mya aros mewn ardaloedd lle mae cerddwyr a beicwyr yn aml yn cymysgu â cherbydau modur oni bai bod tystiolaeth gref yn dangos bod cyflymderau uwch yn ddiogel."

Ychwanegodd: "O'r adborth a gafwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid, mae 192 o ffyrdd yng Nghaerdydd wedi cael eu hailasedu [ac yn dilyn yr adolygiad] canfuwyd bod cyfiawnhad dros ddychwelyd pedair ffordd i 30mya.

"Mae'n gwneud synnwyr dychwelyd y rhain i 30mya i leihau tagfeydd a sicrhau cysondeb â ffyrdd cyfagos a llwybrau parhaus."

Beti Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Beti Wyn ei bod o blaid newid Excalibur Drive i 30mya

Excalibur Drive yng ngogledd Caerdydd oedd y ffordd wnaeth dderbyn y nifer fwyaf o geisiadau i newid yn ôl i 30mya, ond doedd y ffordd honno ddim yn gymwys am ei bod mewn ardal ble mae nifer o bobl yn byw, ac am fod cyfleusterau cymunedol yno.

Mae Beti Wyn yn byw ger y ffordd honno, ac o blaid newid yn ôl i 30mya.

"Mae well 'da fi bod e' lan i 30mya – mae'n gwneud sense i fi," meddai.

"Dwi ddim yn dreifo rhagor, ond fi'n cerdded lot a mae pawb yn dreifo 30mya anyway.

"O'dd dim eisiau dod a fe lawr i 20mya."

Molly Wynne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly Wynne yn dysgu sut i yrru, ac yn hapus gyda'r ffyrdd 20mya

Ar y llaw arall, mae Molly Wynne yn hapus hefo'r ffyrdd yn 20mya.

"Os mae'r evidence yn profi bod e'n gwneud rhywbeth da, mae pethau'n newid ac mae e'n fwy saff i'r gymuned - mae'n beth da dwi'n meddwl.

"Dwi'n dysgu gyrru so efallai bydd fy marn yn newid ar ôl i fi yrru, ond dwi'n meddwl bod e'n fwy saff i bawb."