Tua 100 yn llai wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ers cynllun 20mya

20 myaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd terfyn cyflymder 20mya ei gyflwyno ar gyfer 8,000 o filltiroedd o ffyrdd Cymru yn Medi 2023

  • Cyhoeddwyd

Cafodd tua 100 yn llai o bobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder gorfodol o 20mya.

Dyna mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Ym mis Medi 2023, cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya Cymru eu newid i derfyn 20mya fel rhan o gynllun dadleuol gan y llywodraeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth bod yr ystadegau yn "galonogol" ond dywedodd y Ceidwadwyr bod ganddyn nhw "bryder o hyd" ynghylch y "ffordd y mae'r terfyn cyflymder 20mya wedi'i weithredu".

'Gwrando ar farn pobl'

Yn y flwyddyn a ddilynodd rhwng Hydref 2023 a Medi 2024, gostyngodd nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya gyda'i gilydd 26% o gymharu â'r 12 mis blaenorol.

Roedd nifer yr anafusion (casualties) 28% yn is na'r un cyfnod o 12 mis y flwyddyn flaenorol.

Yn dilyn ymateb cyhoeddus, y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r terfyn 20mya, gan ganiatáu i gynghorau ddychwelyd rhai ffyrdd i derfynau uwch – ond nid oes unrhyw ffyrdd wedi'u newid eto.

Mae'r data yn adlewyrchu'r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024.

Cafodd 771 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd eu cofnodi gan heddluoedd yng Nghymru, ac o'u plith roedd:

  • 17 (2%) yn angheuol;

  • 225 (29%) yn wrthdrawiadau difrifol;

  • 529 (69%) yn fân wrthdrawiadau.

Ken Skates
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws bod 20mya yn gweithio'n dda ar y ffyrdd cywir," meddai Ken Skates

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn darparu gwybodaeth am y flwyddyn lawn gyntaf ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

"Mae'r darlun yn parhau i fod yn galonogol gyda nifer y gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd ar eu lefel isaf ar gyfer y chwarter hwn.

"Rydym yn gwybod bod ffordd i fynd ac rydym bob amser wedi dweud y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i weld effaith lawn y polisi, ond mae gweld y ffigurau ar gyfer y chwarter hwn ar eu lefel isaf yn gadarnhaol.

"Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws bod 20mya yn gweithio'n dda ar y ffyrdd cywir.

"Rydym wedi gwrando ar farn pobl am y polisi ac rydym wedi grymuso awdurdodau lleol i wneud newidiadau lle mae'n ddiogel gwneud hynny."

'Dryswch a rhwystredigaeth'

Ymatebodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox AS: "Er ein bod yn croesawu unrhyw ostyngiad yn nifer y damweiniau ffyrdd, nid yw'r ffigyrau hyn yn dweud y stori gyfan.

"Ein pryder o hyd yw'r ffordd y mae'r terfyn cyflymder 20mya wedi'i weithredu.

"Mae dull diofyn llywodraeth Lafur Cymru wedi creu dryswch a rhwystredigaeth i yrwyr ac mae'n rhaid i'w hadolygiad presennol fynd i'r afael â'r materion gweithredu hyn a sicrhau dull mwy synhwyrol ac effeithiol."