'Camgymeriadau gyda pholisi 20mya ond mae'n achub bywydau'

Lee Waters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lee Waters y dylai'r llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy a hysbysu pobl yn well cyn i'r newid ddod i rym

  • Cyhoeddwyd

Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio “mwy o synnwyr cyffredin” wrth weithredu’r terfyn cyflymder 20mya, medd y gweinidog oedd yn gyfrifol am y polisi dadleuol.

Wrth siarad â'r BBC dywedodd Lee Waters, a ymddiswyddodd fel gweinidog trafnidiaeth ym mis Mawrth, ei bod hi’n “eithaf amlwg” bod y polisi wedi lleihau cyflymder ac wedi achub bywydau.

Ond pan gafodd ei holi beth fyddai’n ei wneud yn wahanol, dywedodd y dylai'r llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy cyn cyflwyno'r polisi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o arwyddion eu difrodi wedi i'r polisi 20mya ddod i rym

Mae'r polisi - a gyflwynwyd ym mis Medi 2023 - yn golygu mai 20mya, yn hytrach na 30mya, yw'r terfyn cyflymder bellach mewn ardaloedd trefol, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau.

Ar hyn o bryd mae'r polisi yn cael ei adolygu wedi i bron i hanner miliwn o bobl arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid ac mae nifer o arwyddion ffyrdd wedi'u difrodi.

Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng draean yn chwarter olaf y llynedd.

Cyfaddefodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn ddiweddar fod gweithredu deddf 20mya dadleuol Cymru yn creu problemau.

Wrth siarad â'r BBC dywedodd Lee Waters y dylai'r Llywodraeth fod wedi ymgynghori mwy a hysbysu pobl yn well cyn i'r newid ddod i rym.

"Byddai fe wedi bod yn fwy synhwyrol i siarad â phobl a gwrando ar bobl cyn i'r newid ddod i mewn," meddai.

"Dwi'm yn meddwl bod y llywodraeth gyfan wedi bod gymaint y tu ôl i'r ymgyrch ag ymgyrchoedd eraill - roedd yna lawer mwy o hysbysebu cyn yr ymgyrch rhoi organau, er enghraifft.

“Dwi’n meddwl bod hynny’n gamgymeriad a dwi’n meddwl bod yn rhaid i bawb, gan gynnwys fi, roi eu llaw lan a derbyn y cyfrifoldeb,” ychwanegodd.

Dywedodd Waters hefyd fod rhai cynghorau yn "gyndyn o symud y tu hwnt i lythyren y ddeddf pan oedd ganddyn nhw hyblygrwydd i wneud hynny".

Wrth gyfeirio at y gwrthwynebiad i'r polisi, dywedodd Lee Waters ei fod wedi bod yn "fwy ac wedi para'n hirach na'r hyn yr oeddem yn ei ragweld".

“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni wedi paratoi’r tir ddigon a ddim yn meddwl bod pobl wedi rhagweld cymaint o newid fyddai hwn,” meddai, gan ychwanegu y gallai “gymryd amser” i bobl dderbyn y polisi.

“Fe gymerodd amser hir i bobl ddod i arfer â gwregysau diogelwch, fe gymerodd amser hir i bobl ddod i arfer â'r gwaharddiad o ysmygu mewn mannau cyhoeddus - ond nid ydym wedi cefnu ar unrhyw un o'r polisïau hynny a fyddwn i ddim yn cefnu ar hwn,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn hyderus bod “y data a’r dystiolaeth yn dangos y bydd yn achub bywydau, ac ymhen amser bydd yn setlo i lawr”.

'Miloedd wedi ymateb'

Wrth siarad ar raglen Bore Sul Radio Cymru dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae 'na dal i fod problemau – lot o gwynion ynglŷn â’r 20mya. Mae hwnna yn rhywbeth yn amlwg fydd angen i ni ddiwygio rhywfaint ac mae rhan o’r broses yna wedi dechrau, wrth gwrs.

“Dw i'n meddwl bod consensws i gael yn y boblogaeth bod angen cadw at 20mya o gwmpas ysgolion a meysydd chwarae ac ati a dw i'n meddwl o ran yr ardaloedd built up areas - dyna le mae’r drafodaeth angen bod just o ran y through roads yna.

"Dyna beth sydd wedi dod nôl dw i’n meddwl o’r cyhoedd.

"Ni wedi annog y cyhoedd i gysylltu gyda'u llywodraeth leol nhw, i ddweud pa strydoedd sydd yn achosi’r problemau fwyaf iddyn nhw. Mae miloedd wedi ymateb. Mae’n rhaid i lywodraeth leol nawr mynd trwy’r ymatebion yna.

"Bydd hyn yn cymryd tamaid bach o amser - felly fydd e ddim yn rhywbeth fydd yn digwydd dros nos. Ond gobeithio bydd pobl yn gweld gwahaniaeth ar lawr gwlad."