Pedwar newid i dîm Cymru i herio Awstralia
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Tomos Williams ar gael ar gyfer gêm Cymru yng Nghyfres y Cenhedloedd yr Hydref yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Cafodd mewnwr Caerloyw anaf i'w ysgwydd yn y golled o 24-19 yn erbyn Fiji ac mae Ellis Bevan o Gaerdydd yn cymryd ei le.
Mae'r prif hyfforddwr Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid wrth i Gymru geisio osgoi colled ryngwladol arall - maen nhw eisoes wedi colli 10 yn olynol.
Mae asgellwr y Scarlets Tom Rogers yn cymryd lle Mason Grady sydd wedi’i anafu, tra bod y blaenasgellwyr Jac Morgan a James Botham yn dod i mewn yn lle Taine Plumtree a Tommy Reffell.
Mae mewnwr y Dreigiau, Rhodri Williams, 31, wedi ei enwi ar fainc yr eilyddion, dros 10 mlynedd ers ennill ei gap diwethaf.
Ers cymryd lle Wayne Pivac ym mis Rhagfyr 2022 a dychwelyd am ail gyfnod fel prif hyfforddwr Cymru, dim ond chwech allan o 22 gêm y mae Gatland wedi’u hennill.
Bydd Awstralia yn cyrraedd Caerdydd ar gefn buddugoliaeth syfrdanol o 42-37 yn erbyn Lloegr.
Maen nhw hefyd wedi ennill naw o’u 11 ymweliad diwethaf â phrifddinas Cymru.
Bydd y gic gyntaf am 16:10 ddydd Sul, 17 Tachwedd.
Tîm Cymru i wynebu Awstralia
Winnett; Rogers, Llewellyn, B Thomas, Murray; Anscombe, Bevan; G Thomas, Lake (capt), Griffin, Rowlands, Beard, Botham, Morgan, Wainwright.
Eilyddion: Elias, N Smith, Assiratti, Tshiunza, Reffell, R Williams, Costelow, James.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd