'Gamblo hanner ein harian ar noson ein priodas'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gollodd hanner ei harian priodas wedi cyhuddo cwmnïau betio o ymddygiad “rheibus”.
Treuliodd Elissa Hubbard, 38 o'r Rhyl, noson ei phriodas yn gamblo'n gyfrinachol.
Ar ei anterth, roedd ei dibyniaeth yn costio £40,000 y flwyddyn iddi.
Ond wrth ddechrau gwella, dechreuodd "deimlo casineb" at y ffordd y mae cwmnïau'n hyrwyddo betio.
Dywedodd y Cyngor Betio a Hapchwarae (BGC) bod ei holl aelodau yn gweithredu cynlluniau ble mae modd i bobl gamu i ffwrdd o fetio.
'Fy hunan werth wedi mynd'
Yn ôl Elissa, pan oedd hi ar ei gwaethaf byddai cael cynnig i roi bet am ddim wedi bod yn ddigon iddi fetio cyflog mis cyfan yn y pendraw.
"Roedd fy holl hunan werth wedi mynd," meddai.
"Fe gollais i fy mhersonoliaeth. Ro'n i'n teimlo fel methiant llwyr.
"Os 'da chi eisiau betio, 'da chi'n mynd i fynd i fetio - 'da chi ddim angen rhywbeth yn eich syllu yn eich wyneb.
"'Da chi ddim angen deliwr yn rhoi cynnig arbennig i chi."
A hithau bellach yn byw yn nhref glan môr Y Rhyl yn y gogledd, dywedodd Elissa fod yna siopau betio, casinos ac arcedau o amgylch ei fflat – a’i bod yn poeni am nifer y lleoedd tebyg sy'n agor mewn ardaloedd tlotach.
Mae ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu bod tua un o bob pum safle gamblo wedi'u lleoli yn ardaloedd tlotaf Cymru.
Roedd 71 eiddo gamblo yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig - o gymharu ag wyth yn y 10% lleiaf difreintiedig.
“Pobl sydd ar incwm is fydd yn ceisio gamblo i wneud mwy o arian iddyn nhw eu hunain,” meddai Elissa, sy'n wreiddiol o Fanceinion.
“Does 'na ddim angen y nifer yna mewn un ardal, achos fe allech chi wneud hunan-waharddiad, ond fyddai hynny ddim yn gwneud gwahaniaeth o ran arcedau neu ganolfannau gemau oedolion.”
Dywedodd Elissa nad oes modd iddi osgoi cerdded heibio i siopau betio, ond mae hi'n osgoi hyd yn oed edrych ar beiriannau hapchwarae os ydy hi'n cael cinio mewn tafarn, er enghraifft, am ei bod yn poeni y gallai rhywun feddwl ei bod yn gamblo eto.
Dywedodd Dr Jamie Torrance, sy'n ymchwilio i seicoleg hapchwarae ym Mhrifysgol Abertawe, fod clystyrau o siopau betio mewn ardaloedd difreintiedig yn “broblem enfawr”.
“Mae caledi ariannol a bod yn ddi-waith yn cynyddu'r risg yn sylweddol o ddatblygu arfer gamblo,” meddai Dr Torrance.
"Dyw’r syniad fod gamblo yn ffordd hawdd o wneud arian, neu y gall o newid bywyd, ddim wedi dod o 'nunlle.
"Mae’n rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu’n helaeth yn strategaethau marchnata a hysbysebion y diwydiant gamblo.
“Dydych chi byth yn gweld pobl yn colli arian yn yr hysbysebion hynny. Dydych chi byth yn gweld pobl yn cael niwed.
"Y cyfan welwch chi yw pobl yn ennill, pobl yn gyffrous ac yn hapus.
“I rywun sy’n profi caledi ariannol mae hynny’n mynd i fod yn ddeniadol dros ben.”
Galw am glinig yng Nghymru
Dywedodd Dr Torrance fod angen “dybryd” yng Nghymru am glinigau'r Gwasanaeth Iechyd sy’n canolbwyntio ar drin problemau gamblo.
Mae clinigau o'r fath eisoes yn bodoli yn Lloegr.
“Does dim gwahaniaeth gwirioneddol rhwng rhai sydd â phroblem gamblo yng Nghymru a Lloegr heblaw am y ffaith nad oes ganddyn nhw fynediad i’r clinigau hyn,” meddai.
Mae'r Aelod Ceidwadol Darren Millar yn aelod o grŵp yn y Senedd sy'n edrych ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
Dywedodd fod bwcis yn "annog a bwydo” problemau gamblo.
“Mae'n ffaith fod cymunedau tlotach yn anffodus yn tueddu i gael problemau mwy gyda gamblo,” meddai.
“Gwaetha'r modd, mae llawer o fewn y diwydiant betio yn manteisio ar hynny drwy agor bwcis o fewn canolfannau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig.
"Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol."
Dywedodd Mr Millar hefyd fod Cymru angen gwasanaeth gamblo cenedlaethol ei hun fel rhan o'r GIG "yn ofnadwy".
'Y mwyafrif yn ddiogel a chyfrifol'
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Betio a Hapchwarae bod ei aelodau wedi rhoi “£122.5m dros bedair blynedd” i fynd i’r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
“Mae busnesau betio a hapchwarae, fel unrhyw fusnes arall, wedi'u lleoli mewn mannau prysur fel y stryd fawr, ac yn rhan bwysig o'r economi leol,” meddai'r corff.
“Pob mis mae tua 22.5 miliwn o bobl ym Mhrydain yn mwynhau gosod bet - ar y loteri, mewn bwcis, casinos, neuaddau bingo ac ar y we - ac mae’r mwyafrif llethol yn gwneud hynny’n ddiogel ac yn gyfrifol.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i "gryfhau'r gefnogaeth i bobl sy'n cael eu heffeithio gan gaethiwed i gamblo" a'u bod yn gweithio gyda'r GIG i ddatblygu gwasanaethau triniaeth.
"Rydym hefyd yn llwyr gefnogi cyflwyno newidiadau cynhwysfawr i'r diwydiant i wella rheoleiddio, ac amddiffyn defnyddwyr rhag niwed, gan gynnwys mynd i'r afael â stigma a hysbysebu gamblo," meddai llefarydd.
Os oes unrhyw agwedd o'r stori hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael trwy BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022