'Rwy'n ôl': Cystadlu ar lefel ryngwladol ar ôl gwrthdrawiad difrifol

Mae Bree Cronin wedi synnu nifer drwy gyrraedd safon ryngwladol yn anarferol o sydyn
- Cyhoeddwyd
Mae athletwraig o Gymru yn paratoi i gamu i'r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf, dim ond tair blynedd ers i wrthdrawiad car newid ei bywyd am byth.
Fe fydd Bree Cronin o Abertridwr, ger Caerffili, yn cynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth y ddisgen F44 ym Mhencampwriaeth Para-Athletau'r Byd, sy'n cychwyn ar 25 Medi yn Delhi, India.
Ym mis Mai 2021 roedd Cronin, a oedd yn 17 oed ar y pryd, yn hyfforddi i ymuno â'r fyddin a datblygu gyrfa ym myd athletau ond fe gafodd ei tharo gan gar y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog.
Cafodd anafiadau parhaol i'w choesau, yn ogystal â difrod dros dro i'w hymennydd.

Roedd gan Bree Cronin amheuon ynglŷn ag ailafael yn y ddisgen fel athletwraig para
"Nes i dorri ambell asgwrn a wnaeth dim byd fynd yn ôl sut oedd e, rydw i wedi aros fel hyn," meddai.
"Roedd hi'n gyfnod garw iawn, ychydig o flynyddoedd caled mewn gwirionedd.
"Ond ar ôl peth amser, ges i fy annog i fynd 'nôl at athletau. Roeddwn i'n arfer bod mor egnïol - fe gafodd effaith fawr arna' i - ond rwy'n ôl nawr."
'Ddim eisiau ildio'r freuddwyd'
Cyn y ddamwain, roedd Cronin, sy'n 22 mlwydd oed, eisoes yn daflwr disgen addawol.
Roedd ganddi amheuon ynglŷn ag ailafael yn y gamp fel athletwraig para, ond buan y dychwelodd ei hangerdd.
Mae hi bellach yn hyfforddi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gyda'i chyd-Gymraes a'i ffrind agos Funmi Oduwaiye, o dan hyfforddiant Josh Clark.
"Cyn yr anafiadau mi oeddwn i'n daflwr disgen fel athletwraig abl a doeddwn i ddim eisiau ildio'r freuddwyd honno," eglurodd Cronin.
"Roedd gen i ofn, achos doeddwn i ddim eisiau gweld fy hun fel rhywun na allai wneud yr hyn o'n i'n ei garu. Ond penderfynais ddilyn y llwybr, ac rwy'n mwynhau eto.
"Mae hi wedi cymryd amser ond dwi'n dysgu i dderbyn beth sydd wedi digwydd i mi."

Dyma fydd y tro cyntaf i Bree Cronin gystadlu mewn pencampwriaeth ryngwladol
Diolch i'w chefndir a thalent naturiol, mae Cronin wedi synnu nifer drwy gyrraedd safon ryngwladol yn anarferol o sydyn.
Yn gynharach eleni, enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Prydain - yn ail y tu ôl i Oduwaiye - ac mae hi bellach yn edrych ymlaen at Delhi yn llawn hyder.
"Dwi'n teimlo'n wych," meddai, "mae'n gyfnod arbennig iawn. Tydi o heb fy nharo i eto - efallai pan dwi ar yr awyren - ond mae'n deimlad braf."
I Cronin, bydd cael Oduwaiye wrth ei hochr yn India yn gysur wrth iddi droedio llwybr newydd.
"Mae'n sicr yn braf mynd gyda rhywun dwi'n adnabod a rhannu ystafell gyda hi," meddai.
"Mae hyn i gyd yn newydd iawn i mi."

Fe wnaeth ewythr Bree Cronin, Denys, focsio yn erbyn Chris Eubank yng Nghaerdydd yn 1990
Nid dyma'r tro cyntaf i un o deulu Cronin ddenu sylw o fewn y byd chwaraeon.
'Nôl yn 1990, fe wnaeth ei hewythr Denys Cronin focsio yn erbyn y cyn-bencampwr byd Chris Eubank yng Nghaerdydd.
"Mae fy mrawd yn bocsio ac mae gen i gefndryd sy'n codi pwysau. 'Da ni'n deulu o athletwyr," esboniodd.
Wrth edrych ymlaen at y cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd, mae Cronin yn cadw ei nodau'n syml ac yn canolbwyntio ar beth all ddigwydd yn hytrach na beth sydd bellach tu hwnt i'w gafael.
"Mae'n mynd i fod yn brofiad anhygoel. Dwi'n benderfynol o'i fwynhau," meddai.
"Mae'n deimlad mor braf i gael fy newis — rwy'n ddiolchgar am hynny. A gobeithio bod mwy a gwell i ddod flwyddyn nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl