Gweithredu deddf 20mya wedi 'creu problemau' medd Eluned Morgan

20 myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyfaddef bod gweithredu deddf 20mya Cymru wedi creu problemau.

Roedd yn un o bolisïau blaenllaw’r cyn-brif weinidog Mark Drakeford, ond mae adolygiad o’r canllawiau ar y gweill ar ôl i filoedd o bobl arwyddo deiseb yn galw am ei ddileu.

Wrth siarad â phodlediad Newscast y BBC, amddiffynnodd Eluned Morgan hefyd y cynnydd yn nifer yr Aelodau Seneddol o 60 i 96 ar gyfer etholiad 2026.

Dywedodd ei bod yn dod i'r pwynt pe bai AS yn gadael cyfarfod pwyllgor i fynd i'r tŷ bach, yna nid oedd digon o aelodau'r pwyllgor yn dal i fod yn bresennol i'r trafodion fod yn ddilys.

'Gwrando'

Gellir dadlau mai’r gyfraith terfyn cyflymder, a ddaeth i rym ym mis Medi 2023, yw’r un fwyaf dadleuol ers dechrau datganoli 25 mlynedd yn ôl.

Mae’n golygu mai 20mya yn hytrach na 30mya yw’r terfyn cyflymder rhagosodedig mewn ardaloedd adeiledig, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae wedi arwain at ymateb cyhoeddus sylweddol gyda deiseb o ychydig llai na hanner miliwn o lofnodion ac arwyddion ffyrdd yn cael eu difrodi.

Ond mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng o draean yn chwarter olaf y llynedd.

Dywedodd Eluned Morgan fod polisi 20 mya wedi codi’n rheolaidd yn ystod ei ‘hymarfer gwrando’ yn ystod yr haf, pan fu’n siarad â phleidleiswyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rydyn ni’n adolygu’r canllawiau" ynghylch 20mya meddai Eluned Morgan

Mae cynghorau lleol ar hyn o bryd yn ystyried pa newidiadau – os o gwbl – i’w gwneud i derfynau cyflymder yn eu hardal ar ôl gofyn i’r cyhoedd am eu barn.

Gofynnodd Golygydd Gwleidyddol y BBC, Chris Mason, a oedd yr adolygiad o’r canllawiau yn gydnabyddiaeth bod y llywodraeth wedi mynd yn rhy bell.

“Rwy’n meddwl bod yn rhaid i chi ddod â phobl gyda chi,” atebodd Eluned Morgan.

“Os ydych chi'n gorfodi gormod heb fraenaru'r tir yna yn amlwg mae hynny'n mynd i greu problem ac fe greodd broblem. Mae’n rhaid i ni gydnabod hynny.

“Mae'n rhaid i ni gael ailosodiad, mae'n rhaid i ni gael yr adolygiad hwnnw ac rydych chi'n gwybod yn llythrennol bod cannoedd o bobl wedi ysgrifennu at eu cyngor lleol yn dweud 'beth am newid y ffordd hon yn ôl', felly fe gawn ni weld ble mae'r cynghorau hynny'n meddwl am eithriadau.

“Rydyn ni’n adolygu’r canllawiau. Roedd cyfleoedd i gynghorau wneud eithriadau a manteisiodd rhai cynghorau ar y cyfle hwnnw a rhoi llawer o eithriadau ar waith.

“Ac yn yr ardaloedd hynny dyw’r anfodlonrwydd ddim mor fawr. Mae cynghorau eraill yn dweud y byddan nhw'n yn edrych ar yr eithriadau hynny eto.

“Ond yn gyffredinol o amgylch ysgolion, o amgylch ysbytai ac o amgylch meysydd chwarae mae pobl eisiau cadw’r 20mya hwnnw”.

Amddiffynnodd Eluned Morgan hefyd y cynnydd ym maint y Senedd o 60 i 96 o aelodau seneddol.

“Rydyn ni newydd gael gostyngiad yn nifer yr ASau yn San Steffan – nifer nad yw'n ansylweddol, rydw i’n prysuro i ychwanegu,” meddai.

“Mae’r cyhoedd yn amlwg yn bryderus pan fyddan nhw’n gweld mwy o wleidyddion, ond mae tystiolaeth dda os oes gennych chi well craffu y gallwch chi ddwyn pobol i gyfrif yn well a bod yr adnoddau’n cael eu dyrannu’n well.”

Ychwanegodd: “Roeddem yn llythrennol yn cyrraedd y pwynt lle na allem redeg pwyllgorau. Pe bai rhywun yn mynd i'r tŷ bach yna nid oedd gan y pwyllgor gworwm [nid oedd digon o aelodau'n bresennol i'r trafodion fod yn ddilys].

"Ni allwch redeg Senedd yn y ffordd honno.”

Bydd system bleidleisio newydd Cymru yn defnyddio cynrychiolaeth gyfrannol – lle mae seddi’n cael eu hennill ar sail canran o bleidleisiau yn hytrach na'r cyntaf i’r felin.

Mae gan y system bresennol gymysgedd o'r ddau.

Mae'r cynlluniau newydd yn agor y ffordd i bleidiau fel Reform UK ennill mwy o seddi.

Dywedodd Eluned Morgan fod ei phlaid yn cymryd y bleidlais i Reform yn “ddifrifol iawn” gan ei disgrifio fel “her”.

Ni enillodd Reform sedd Gymreig yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar i San Steffan, er iddynt ddod yn ail mewn 13 o 32 sedd Cymru, ond byddai eu cyfran o 16.9% o’r bleidlais yn fwy na digon i ennill seddi yn system newydd y Senedd.

Ynghylch datganoli pwerau pellach o San Steffan i’r Senedd dywedodd Ms Morgan mai’r “peth pwysicaf” iddi oedd cyflawni “yn well” ar yr hyn yr oedd ei llywodraeth eisoes yn gyfrifol amdano.

Ymhlith pethau eraill, Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r GIG, addysg a materion gwledig.

Dywedodd wrth y podlediad ei fod yn “gwneud synnwyr” i gyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf gael eu datganoli i Gymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod gweinidogion Llafur wedi "mwy neu lei cyfaddef nad yw'r polisi yma bod yn llwyddiannus, ond dydyn nhw ddim yn fodlon cael gwared ohono.

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn dileu'r polisi ac yn cadw terfynau 20mya mewn mannau lle mae 'na wir angen amdanyn nhw, fel y tu allan i ysgolion."