Arestio gyrrwr wedi i ddynes gael ei lladd ym Maesteg

Cafodd y fenyw o Gaerau ei tharo wrth gerdded ar hyd Heol Caerau ym Maesteg
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 58 oed wedi cael ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y fenyw o Gaerau ei tharo wrth gerdded ar hyd Heol Caerau ym Maesteg tua 00:40 fore Sul a bu farw yn fuan wedyn.
Mae menyw 73 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.