Troi sbwriel yn anrhegion Nadolig yn rhan o'r 'chwyldro gwyrdd'

Disgrifiad,

"Pwy â ŵyr y gall Cymru arwain y byd yn y chwyldro gwyrdd", medd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen

  • Cyhoeddwyd

Mwynhau siopa Nadolig a helpu'r blaned - dyna yw'r neges yng nghanolfan ailgylchu a gwastraff Nant-y-caws ger Caerfyrddin eleni.

Yn 2022, fe agorodd y ganolfan uned siopa, y pentref ailddefnyddio cyntaf yng Nghymru, meddai'r ganolfan, lle mae'r nwyddau sy' ar werth wedi eu hachub o'r domen sbwriel cyn cael eu hadnewyddu er mwyn eu gwerthu eto.

Yn ôl perchnogion y safle, Cwm Environmental, mae nifer yr ymwelwyr â'r ganolfan wedi treblu ers yr agoriad gyda tua 80% o'r nwyddau sy'n cyrraedd y ganolfan nawr yn cael eu hailgylchu.

"Ma' hwnna yn uchel iawn, iawn, iawn", dywed Nicholas Thomas, cydlynydd addysg economi gylchol Cwm Environmental.

"Mae'n syrpreis i ran fwya' o bobl sy'n dod yma i'n siop ni. Maen nhw'n gweld shwd gyment o bethe galla' nhw ail-ddefnyddio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o feiciau yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu, rhai ond angen newid teiar cyn cael eu gwerthu yn y siop

Mae nifer o grefftwyr ar y safle sy'n brysur yn trwsio ac adnewyddu nwyddau o bob math, a hefyd yn creu eitemau newydd o hen ddarnau o bren.

"Ar ôl i bobl ddod â nhw ato ni, ni'n mynd a nhw syth lawr i'r gweithdy wedyn", meddai Nicholas.

"Mae 'na bobl lan 'na sy'n gallu trwsio nhw a glanhau nhw a 'neud nhw'n neis i ni allu gwerthu nhw wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal ag adnewyddu, mae'r gweithwyr yn creu eitemau newydd hefyd

Ychwanegodd mai'r bwriad yw sicrhau fod cyn lleied â phosib o eitemau yn mynd yn wastraff.

"Mae'n cadw pethe mewn cylch economi gylchol, rhoi ail fywyd i bethe. Os ydi rhywun wedi gorffen 'efo rhywbeth dod â fe fan hyn.

"Ni'n trwsio fe, ni'n glanhau fe, ail-werthu fe. Mae'n cael bywyd unwaith eto wedyn a cadw fe mas o'r bin a'r gwastraff."

Mae'r nwyddau sydd ar werth yn amrywio o duniau paent i lestri te, celfi ac offer gardd, llyfrau a dillad.

Dywed Andrew Boyd sy'n gweithio yn y siop eu bod yn gweld ymwelwyr yn dod yma i siopa o bell ac agos.

"Ma' pobl leol yn dod mewn wrth gwrs, a rhai yn dod 'ma o ochr draw i Benybont, neu Abertwe. Ma' pobl yn prynu tipyn o bopeth."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Andrew Boyd sy'n gweithio yn y siop, mae pobl yn ymweld o bell ac agos

Esboniodd bod "lot o bobl yn twli pethe newydd bant", ond fod "popeth sy'n dod mewn i'r ganolfan yn cael eu hadnewyddu a ni'n gwerthu nhw 'mlan".

"Cost o fyw heddi, ma' pobl yn chwilio am fargen, a ma' digon 'da ni ar gael fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 80% o'r nwyddau sy'n cyrraedd y ganolfan yn Nant-y-caws yn cael eu hailgylchu

Fe ddaeth 12,000 o bobl i siopa i'r ganolfan eleni a phrynu bron i 2,000 o eitemau.

Ond yn ogystal â chwilio am fargen mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio y bydd y ganolfan yn help i addysgu pobl am bwysigrwydd ailddefnyddio a bod yn hunangynhaliol er lles y blaned.

Arwain y 'chwyldro gwyrdd'

Dywed y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, aelod cabinet newid hinsawdd y cyngor fod yn rhaid "ail-ddysgu sut ma' troedio yn ysgafn ar y ddaear ymhob agwedd o'n gwaith ni".

"Fan hyn yng Nghanolfan Eto mae gyda ni y cyfle i drio arloesi mewn dulliau newydd o ddelio â gwastraff.

"Yn hanesyddol mae Cymru wedi arwain y byd i'r chwyldro diwydiannol, gyda phrosiectau fel hyn, pwy â wyr y gall Cymru arwain y byd yn y chwyldro gwyrdd."

Mae'r ailgylchu ac ailddefnyddio yn Nant-y-caws yn rhan o ymdrech fyd eang i warchod yr amgylchedd, ac mae'n ymddangos bod Sir Gâr a Chymru ar flaen y gad.

Pynciau cysylltiedig