Dyn 'ddim yn poeni' wrth i gi XL Bully ymosod ar ferch, 12
- Cyhoeddwyd
Doedd dyn "ddim yn poeni" wrth i'w gi XL Bully ymosod ar ferch 12 oed yn gynharach eleni, mae llys wedi clywed.
Mae Justin Allison, 37 o Lyn Ebwy, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o fod yn berchen ar frîd gwaharddedig, o fod yng ngofal ci oedd allan o reolaeth ac yn beryglus ac o fod â chyllell yn ei feddiant.
Clywodd llys ynadon Casnewydd fod y ci, o'r enw Rocco, wedi ymosod ar y ferch wrth iddi ddod allan o gar yn Nantyglo ym mis Hydref - gyda'r anifail yn rhedeg tuag ati "yn gyflym iawn" ac yn ei chyrraedd "mewn eiliadau".
Dywedodd yr erlynydd Lisa Lewis fod y ci yn "chwyrnu" a bod y ferch yn "ofnus iawn".
Clywodd y llys fod y ci wedi neidio ar gefn y ferch ac wedi dal ar ei braich wth iddi geisio gorchuddio ei phen, cyn i'w thad ymyrryd.
Dywedodd Ms Lewis bod y ferch yn cofio gweld y perchennog ond "ddaeth o ddim yn agos ac wnaeth o ddim byd", ac "nad oedd yn poeni" am helpu ei thad.
Clywodd y llys i'r ferch gael ei chludo i'r ysbyty a chael llawdriniaeth ar ei braich.
Dangoswyd delweddau o'r "anaf erchyll" i'r ynadon gydag asgwrn, tendonau a nerfau braich y plentyn yn weladwy o dan fflap o groen.
Clywodd y llys nad oedd gan Mr Allison drwydded ar gyfer y ci XL Bully, gafodd ei ddinistrio yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd yr achos ei ohirio, a bydd y dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd fis nesaf.