Syndrom Down: 'Fy mab wedi ei atal rhag naid elusennol'

Lloyd a CeriFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lloyd (chwith) wedi wynebu sawl rhwystr ar hyd y blynyddoedd yn ôl ei fam, Ceri (dde)

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ddyn ifanc oedd ar fin gwneud naid elusennol yn dweud iddi gael gwybod na allai neidio gan fod ganddo Syndrom Down.

Roedd Lloyd Martin, 19, sydd â theulu yng Nghaerdydd, wedi codi £2,500 i’w glwb gymnasteg wrth gynllunio i wneud y naid yn Wiltshire.

Mae'r dyn ifanc yn dal Record Byd Guinness am fod y person ieuengaf â'i anabledd penodol i gwblhau marathon unrhyw le yn y byd ar ôl gwneud marathon Llundain fis Ebrill.

Roedd Lloyd wedi bod yn edrych ymlaen at y naid ar safle GoSkydive ger Caersallog (Salisbury) ddydd Iau.

Dywedodd ei fam, Ceri Hooper, fod y prif hyfforddwr wedi canslo ei naid oherwydd ei fod yn poeni sut y byddai'n ymateb.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod am ddod i adnabod Lloyd yn well cyn mynd i awyrblymio.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lloyd yn codi arian ar gyfer ei glwb gymnasteg yn ardal Camberley yn ne-ddwyrain Lloegr

“Ry'n ni wedi arfer â chael llawer o ddrysau'n cau'n glep yn ein hwynebau yn y gorffennol, ond mae hyn yn dod â phopeth yn ôl,” meddai Ms Hooper.

“Fe wnaethon ni gyrraedd, cael sesiwn briffio, roedd popeth yn iawn.

"Ond wedyn fe ddaeth [yr hyfforddwr] draw. Dywedodd 'dydyn ni ddim yn gwybod sut mae rhywun â Syndrom Down yn mynd i ymateb pan fyddan nhw'n neidio allan o awyren'.

“Wel, dy'ch chi ddim yn gwybod sut y bydd unrhyw un yn ymateb pan fyddan nhw'n neidio allan o awyren,” ychwanegodd Ms Hooper.

"Fe gafon ni i gyd sioc. Wnaethon nhw ddim dod i siarad â Lloyd."

Dywedodd Ms Hooper fod archwiliadau meddygol gan ei feddyg teulu yn cadarnhau ei fod yn “ffit i neidio” a dywedodd fod y cwmni’n gwybod am anabledd Lloyd pan wnaethon nhw drefnu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lloyd yn mwynhau pob math o chwaraeon ac roedd yn edrych ymlaen at y naid elusennol

“Alla' i ddim credu eu bod wedi gadael i ni archebu lle,” ychwanegodd Ms Hooper.

“Ry'n ni wedi codi’r holl arian yma ar gyfer y gampfa, ry'n ni i gyd wedi cael diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith, ry'n ni wedi cyrraedd, a ‘na’ yw'r ateb.”

Fe deithiodd mam-gu a thad-cu Lloyd o Gaerdydd i'w gefnogi.

Dywedodd Ms Hooper fod Lloyd yn siomedig iawn.

'Cymaint o rwystrau'

"Penderfynodd gweddill y tîm beidio â neidio gan nad oedd Lloyd yn gallu, ac roedd Lloyd yn siomedig am hynny," meddai.

“Rydyn ni wedi cael cymaint o rwystrau, cymaint o ddrysau wedi cau yn ein hwynebau yn y gorffennol.

“Ro'n ni'n teimlo ein bod ni'n cyrraedd rhywle o ran cynwysoldeb, ac wedyn mae hyn yn digwydd.”

Mae'r corff llywodraethu cenedlaethol, British Skydiving, yn dweud y dylai unrhyw un ag anabledd siarad â phrif hyfforddwr yr ysgol blymio awyr cyn ymrwymo i neidio.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GoSkydive, Gordon Blamire, ei fod yn cefnogi penderfyniad ei dîm i "ddod i adnabod Lloyd yn well cyn mynd ag ef i awyrblymio".

“Does dim amheuaeth y gallem fod wedi cyfathrebu’n well yr angen i Lloyd gael ei asesu cyn ei ymweliad â GoSkydive, ac am hyn rydym yn ymddiheuro'n fawr," dywedodd.

“Rydym yn parhau i ddysgu a gwella ein rhyngweithio ac mae’r enghraifft yma yn ysgogi newid uniongyrchol yn ein polisïau.

"Er ein bod yn deall rhwystredigaethau teulu Lloyd, ein blaenoriaeth yw lles Lloyd. Rydyn ni eisiau'r cyfle i ddod i adnabod Lloyd, ei gyflwr a'r hyn sydd ei angen arnon ni cyn i ni allu mynd ag ef i awyrblymio."

Pynciau cysylltiedig