Anrhydeddau'r Orsedd 2024: Y gogledd a'r canolbarth

Gorsedd Cymru Ffynhonnell y llun, Ffotonant
  • Cyhoeddwyd

Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn 2024.

Mae 49 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd, yn "rhoi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a’u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Dyma'r rhai o ogledd a chanolbarth Cymru fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf fis Awst a'r hyn sy'n cael eu nodi gan y Brifwyl amdanyn nhw.

GWISG WERDD

Jane Aaron

Mae cyfraniad Jane Aaron, Aberystwyth i fywyd Cymru yn un nodedig, fel addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac awdur. Hyd nes ei hymddeoliad, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, Prifysgol De Cymru. Mae’n adnabyddus am ei hymchwil arloesol a’i chyhoeddiadau niferus ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifennu menywod o Gymru. Cyhoeddodd nifer o ysgrifau a llyfrau, a bu’n olygydd gyda Gwasg Honno, sy’n arbenigo yn ysgrifennu menywod o Gymru. Yn 2023, cyhoeddodd gofiant Cranogwen gyda Gwasg Prifysgol Cymru.

Anna ap Robert

Mae Anna ap Robert, Aberystwyth yn angerddol dros ein hiaith a’n diwylliant yn ei hardal. Yn Swyddog Creadigol (Dawns a Theatr) gyda Theatr Felin-fach a thiwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth ei gwaith, mae Anna hefyd yn gweithio’n agos gyda Chwmni Cyrff Ystwyth sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau ac anghenion dysgu. Mae hi hefyd yn trefnu nosweithiau dawns ‘Strictly’ yn y Gymraeg, gyda’r holl ymarferion a’r hyfforddi’n cael eu cynnal yn y Gymraeg. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae’r rhain wedi codi bron i £100,000 ar gyfer grwpiau ac elusennau amrywiol.

Elgan Philip Davies

Gwnaeth Elgan Philip Davies, Bow Street, Aberystwyth, gyfraniad triphlyg i’n diwylliant. Ar ddechrau cyfnod allweddol yng nghanu roc Cymraeg, roedd yn aelod blaenllaw o’r grŵp Hergest, a chân o’i waith ef oedd y gyntaf i gael ei chwarae ar Radio Cymru pan lansiwyd y gwasanaeth yn 1977. Yn ail, mae’n awdur toreithiog, wedi ysgrifennu llu o nofelau i blant ac i oedolion. Ac yn drydydd, fel llyfrgellydd a dreuliodd gyfnod sylweddol yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, daeth yn arbenigwr ar yr adeilad hwnnw. Mae wedi cyflwyno’i hanes ar lafar ar y cyfryngau yn ogystal â chyhoeddi sawl llyfr am ei hynodrwydd a’i arwyddocâd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira, Bangor yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor

Michelle Davies

Brodor o bentref Beulah yw Michelle Davies, Llangamarch, yn ferch ei milltir sgwâr, a’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal, ac yn un sydd wedi gwneud llawer i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu unwaith eto mewn ardal lle bu dirywiad yn yr iaith dros y blynyddoedd. Drwy ei gwaith, mae’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt wedi ffynnu. Ac mae ei gwaith cymunedol gyda chyrff megis Eisteddfod Llanwrtyd, y cylch meithrin lleol, Eisteddfod yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc wedi golygu bod llawer mwy o gyfleoedd i blant a ieuenctid yr ardal ddefnyddio’u Cymraeg wrth gymdeithasu.

Owenna Davies

Mae ardal Ffostrasol a Cheredigion yn bwysig iawn i Owenna Davies. Bu’n gweithio ym myd addysg am flynyddoedd, ond fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad gwirfoddol yn lleol. Bu’n gynghorydd cymuned, aelod o bwyllgor Maes a Môr, Cadeirydd Merched Glannau Teifi, a hi fu’n bennaf gyfrifol am drefnu digwyddiadau a goruchwylio’r llyfr a gyhoeddwyd pan gaeodd Ysgol Aberbanc. Mae’n drysorydd Capel y Drindod Aberbanc ac yn helpu i redeg y Banc Bwyd yng Nghapel Seion, Llandysul. Bu’n Llywydd Rhanbarth Merched y Wawr, a llwyddodd i ddenu nawdd i greu ffilm, ‘Gwlân, gwlân, gwlana’, sy’n olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Ngheredigion.

Helena Miguelez-Carballeira

Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira, Bangor yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth ni yma yng Nghymru o hanes a diwylliant Galisia, ac mae hefyd yn arbenigo ar fywyd a gwleidyddiaeth Gwlad y Basg a Chatalwnia. Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau cyfieithu, a thrwy’i hymdrechion hi i raddau helaeth, sicrhawyd fod y Gymraeg yn rhan o’r trafodaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r maes. Mae’n enghraifft lachar o’r modd y gall ysgolheigion rhyngwladol sydd ag ymdeimlad tuag at ein diwylliant a gwybodaeth o’n hiaith, gyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.

Mike Parker

Un o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon yw Mike Parker. Fe'i cyfareddwyd gan fapiau er pan oedd yn blentyn, a hefyd gan Gymru. Symudodd yma yn 2000, ac ymroi i ddysgu Cymraeg. Mae'n awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys 'Neighbours from Hell?' (2007), sy'n trafod agweddau'r Saeson at y Cymry; 'Map Addict' (2009), llythyr cariad i fapiau; 'Real Powys' (2011), arweinlyfr craff i sir fabwysiedig Mike, a'r arobryn 'On the Red Hill' (2019). Y llynedd cyhoeddodd 'All the Wide Border', sy'n crwydro'r gororau. Fel dyn hoyw, gŵyr beth yw perthyn i leiafrif sy'n dioddef rhagfarn yn aml, ac mae hyn yn rhoi min ar y modd y mae'n dehongli Cymru ar gyfer cynulleidfa Saesneg ei hiaith.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y barnwr Meleri Tudur Thomas yn derbyn y Wisg Las

GWISG LAS

Gerallt Pennant

Er mai Eifionydd yw cynefin Gerallt Pennant, bu’n athro yn Ysgol Gymraeg Ynys-wen, Cwm Rhondda am gyfnod, cyn symud i fyd y cyfryngau. Mae Gerallt yn wyneb cyfarwydd ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C, fel gohebydd y gogledd ar ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’, ac mae ‘Galwad Cynnar’ fytholwyrdd Radio Cymru wedi ysbrydoli cenedlaethau o wrandawyr. Mae gallu Gerallt i ymdrin ag amrywiaeth o feysydd, ac ymateb yn gynnes i bobl o bob math ac o bob cwr o’r wlad, yn peri ei fod yn un o’r cyflwynwyr gorau yn y Gymraeg, a braint yw ei anrhydeddu eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Eisteddfod "mae’n gwbl briodol fod safiad Noel Thomas yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun drwy Orsedd Cymru"

Meleri Tudur Thomas

Y Barnwr Meleri Tudur Thomas, Caernarfon, yw dirprwy lywydd Siambr Addysg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr. Fe’i magwyd yng Ngholeg Bala-Bangor a chychwynnodd ei gyrfa fel twrnai ym Mhontypridd dan arweiniad y diweddar Arglwydd Gwilym Prys Davies a Mr Cyril Moseley. Mae’n farnwr Uwch Dribiwnlys ac yn ddirprwy farnwr Uchel Lys, yn eistedd yng Nghymru ac yn y Llysoedd Brenhinol yn Llundain, yn un o’r ychydig a all gyflwyno dyfarniadau yn y Gymraeg. Mae’n farnwr yn Nhribiwnlys Addysg a Phanel Dyfarnu Cymru. Mae ar fwrdd golygyddol y ‘beibl’ cyfreithiol ynglŷn â phlant, ‘Clarke Hall & Morrison on Children’ ac yn un o awduron y gyfrol ‘Making Decisions Judicially’.

Noel Thomas

Un o werinwyr Môn yw Noel Thomas, Gaerwen, gŵr a wasanaethodd ei gymuned yn gydwybodol ac yn anhunanol am flynyddoedd lawer fel is-bostfeistr a chynghorydd sir. Ond daeth tro ar fyd yn 2006: fe’i diswyddwyd gan y Swyddfa Bost a’i garcharu am ffug-gyfrifo. Nid tan Ebrill 2021 yr adferwyd ei enw da pan gafodd ei glirio o’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn y Goruchaf Lys. Fel un a ddioddefodd gamwri mawr dan law sefydliad cyhoeddus grymus, ond a ddaliodd i frwydro am gyfiawnder gan gadw ei hunan-barch a’i urddas drwy’r cyfan, mae’n gwbl briodol fod safiad Noel Thomas yn cael ei gydnabod gan ei genedl ei hun drwy Orsedd Cymru.

Pynciau cysylltiedig