Arestio dyn ar amheuaeth o gynnau tân

Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân y De eu galw i'r digwyddiad yn Nhredegar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl tân mewn hen glwb cymdeithasol yn Nhredegar, Blaenau Gwent.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad gwag ar Stryd yr Eglwys yn ystod oriau mân fore Sul 5 Mai.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Mae'r dyn sydd wedi ei arestio o Flaenau Gwent ac yn cael ei holi ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.
Mae wedi ei ryddhau ar fechniaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân y De eu galw i'r digwyddiad ac ar un adeg roedd saith criw ar y safle yn ceisio diffodd y fflamau.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhywun sydd â gwybodaeth neu luniau o'r ardal yn ystod y cyfnod dan sylw i gysylltu â nhw.

Roedd saith criw tân ar y safle yn ceisio diffodd y fflamau ar un adeg