Dau draeth yng Ngheredigion yn ailagor i nofwyr

Roedd Cyngor Ceredigion wedi cynghori pobl i beidio â nofio ar draethau Llangrannog a Chilborth
- Cyhoeddwyd
Mae dau draeth yng Ngheredigion bellach yn ddiogel i nofwyr unwaith yn rhagor wedi i archwiliad ddangos nad oes "tystiolaeth o lygredd parhaus".
Roedd y cyngor sir wedi cynghori pobl i beidio â nofio ar draethau Llangrannog a Chilborth wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) osod statws "sefyllfa annormal" yno ddydd Gwener.
Roedd hynny yn dilyn adroddiadau bod dŵr afliwiedig yn llifo o Afon Hawen i draeth Llangrannog.
Mae CNC bellach wedi dileu'r statws ar ôl i asesiad o'r afon a'r ddau draeth ddydd Llun gadarnhau nad oes unrhyw dystiolaeth o lygredd parhaus.

Mae arwyddion a gafodd eu gosod ar y traethau yn annog pobl i beidio â nofio yno wedi cael eu tynnu i lawr erbyn hyn
Dywed CNC fod ffermwr lleol wedi cysylltu â nhw yn dweud fod gollyngiad wedi digwydd o'i lagŵn slyri yn uwch i fyny yn y dalgylch, ac fe gafodd swyddog amgylchedd ei anfon ar unwaith i ymchwilio i'r sefyllfa.
Ar ôl cyrraedd, fe ddaeth i'r amlwg bod y ffermwr "eisoes wedi cymryd mesurau i atal y llygredd" ond fe gafodd y cyhoedd gyngor i osgoi nofio ar y traethau "oherwydd problemau ansawdd dŵr posibl".
Mae CNC wedi diolch "i'r cyhoedd a'n partneriaid am eu hamynedd gyda'r digwyddiad hwn", ac yn dweud eu bod "yn falch" o godi'r statws sefyllfa annormal.
Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion: "Fe wnaethon ni sicrhau bod ffynhonnell y llygredd wedi cael ei stopio'n llwyr, ac nad oedd yr afon a'r traethau yn dangos arwyddion o lygredd."