Coed y Brenin: Cau canolfan ymwelwyr am gael 'effaith fawr'
- Cyhoeddwyd
Byddai cau canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ar gyrion Dolgellau yn cael "effaith fawr ar yr economi leol", yn ôl cynghorydd sir.
Cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng ymgyrchwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fore Gwener i drafod dyfodol y ganolfan ymwelwyr.
Mae menter gymunedol Caru Coed y Brenin yn awyddus i gymryd rheolaeth o'r ganolfan ymwelwyr, ond mae CNC wedi rhybuddio y gallai'r broses honno gymryd rhai blynyddoedd.
Daw wedi i CNC ddatgelu ddydd Iau eu bod yn bwriadu cau 265 o swyddi.
Dywed y corff fod y cynllun yn golygu fod "pob aelod o staff ym mhob canolfan ymwelwyr yn wynebu cael eu diswyddo".
Ond byddai "llwybrau, mynediad, meysydd parcio, a thai bach yn parhau ar y safleoedd".
Byddai'r cynnig yn golygu cau tri chanolfan ymwelwyr ddiwedd mis Mawrth 2025 - Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas.
- Cyhoeddwyd1 Awst
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2016
Fe agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin - rhwng pentref Ganllwyd a Thrawsfynydd - ym 1996.
Mae'r dros 50 milltir o lwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded a'r caffi yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ond mae cwestiynau wedi bod am ddyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ers rhai misoedd, gydag un cyfarfod cyhoeddus eisoes wedi ei gynnal nôl ym mis Chwefror.
Yn y cyfarfod hwnnw fe nododd ymgyrchwyr lleol y byddai colli canolfan ymwelwyr y safle yn "ergyd enfawr".
Dywedodd y cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths fod "cynnal llai o ddarpariaeth yn y lleoliad am gael effaith niweidiol iawn ar yr economi leol".
"Mae pobl yn dod o bell ac agos trwy'r byd i gyd i ganolfan Coed y Brenin," meddai.
"Mae'r effaith ar y bobl sydd am golli eu gwaith yn fawr, mae'r effaith ar yr economi leol yn fawr, ac mae'r effaith ar economi Cymru hefyd yn sylweddol."
Yn dilyn y cyfarfod fore Gwener dywedodd y Cynghorydd Griffiths y byddai cau'r ganolfan ymwelwyr yn "golygu lot i'r gymuned yma".
"Mae lot o fusnesau, bythynnod gwyliau, busnesau'n ymwneud efo beicio a cherdded yn yr ardal yma.
"Maen nhw wedi tyfu yn y blynyddoedd diwethaf yma oherwydd Coed y Brenin.
"'Da ni wedi bod yn gofyn i weithio mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ers mis Chwefror, ond maen nhw wedi gwrthod pob un ymdrech i ni gydweithio gyda nhw."
'Anodd iawn i ni gynllunio'
Gobaith y Cynghorydd Griffiths ydy y bydd modd achub y ganolfan gyda menter gymunedol, ond mae hi'n dweud fod CNC wedi rhybuddio y gallai hynny gymryd rhai blynyddoedd i wireddu.
Dywedodd ei fod yn "syndod mawr fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn hyd yn oed ystyried 'neud pobl yn y lleoliad yn ddi-waith".
"Ydyn nhw wedi meddwl sut mae hynna am effeithio ar draciau beics, sydd yn enwog dros y byd i gyd?
"'Da ni wedi dechrau grŵp Caru Coed y Brenin yn lleol, ac wedi bod yn cael grantiau ar gyfer 'neud ymchwil dichonoldeb a 'da ni'n barod i drafod efo nhw am ddyfodol y ganolfan.
"'Da ni'n synnu eu bod nhw heb allu trafod yn bellach efo ni ynglŷn â be' fydd ein rôl ni fel grŵp cymunedol yn y dyfodol.
"Dy'n nhw ddim wedi rhoi gwybodaeth i ni am eu cyllidebau o gwbl, felly mae'n anodd iawn i ni gynllunio ar gyfer cymryd drosodd y lleoliad heb wybod beth fydd y gwariant penodol."
Pwysleisiodd cadeirydd mudiad Caru Coed y Brenin, Rhys Llywelyn, eu hawydd i gymryd rheolaeth o'r ganolfan ymwelwyr.
"Be' 'dyn ni wedi cynnig i CNC yw ein bod ni'n barod i gymryd y lle drosodd a rhedeg y lle, fel bod e ddim yn gorfod cau.
"Be' 'dan ni'n gofidio ydy, unwaith y bydd y drws yn cau ar y lle, bydd e byth yn ailagor.
"Fe fydd'na fandaliaeth, camddefnydd o'r lle, a fydd Coed y Brenin ddim y lle mae e wedi bod ers nifer o flynyddoedd, yn gyrchfan bwysig i bobl gogledd Cymru."
Roedd aelod Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor yn un o'r rheiny a fynychodd y cyfarfod fore Gwener.
"Mae'r ganolfan yma yn dod â buddion mawr i'r ardal, nid yn unig yn uniongyrchol ond yn anuniongyrchol efo nifer o gwmnïau wedi sefydlu yn yr ardal o amgylch y buddsoddiad sydd wedi bod yma," meddai.
"Felly mae'n rhaid i ni sicrhau parhad a hyfywedd y ganolfan yma yng Nghoed y Brenin."
Ychwanegodd fod CNC "wedi methu defnyddio'r adnoddau sydd ganddyn nhw i'r gorau posib" o ran cynhyrchu arian o safleoedd o'r fath.
Daeth i'r amlwg ddydd Iau fod CNC yn bwriadu cau 265 o swyddi mewn ymgais i arbed £13m.
Mae'r corff yn gofyn am adborth staff ar y cynnig cyn i'r bwrdd ddod i benderfyniad ddiwedd mis Medi.
Ychwanegodd CNC fod tua 200 o swyddi gwag a swyddi newydd yn cael eu creu yn y sefydliad. Does dim manylion am natur y swyddi hynny.
Dywedodd llefarydd: "Y bwriad yw ailffocysu adnoddau ar y gweithgareddau fydd â'r effaith fwyaf ar natur, yr hinsawdd, a lleihau llygredd, yn ogystal â'r gwaith statudol ond CNC sy'n medru ei wneud.
"Ein gobaith yw atal diswyddiadau gymaint ag y gallwn ni.
"Ond mae'n bosib na fydd gofynion y swyddi [fyddai'n cael eu cau] yr un peth â gofynion y swyddi newydd."
Ychwanegodd prif weithredwr CNC Clare Pillman fod "arian cyhoeddus yn eithriadol o dynn drwy'r DU".