Dyn, 21, wedi marw tra ar wyliau yn Benidorm

Harvey Dominy Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harvey Dominy ei ganfod yn ei ystafell wely ar Orffennaf 16

  • Cyhoeddwyd

Fe glywodd cwest fod person 21 oed wedi ei ganfod yn farw mewn ystafell tra yr oedd ar wyliau yn Benidorm, Sbaen.

Cafodd Harvey Dominy, o Ferthyr Tudful, ei ganfod ar lawr ystafell y gwesty yn y man gwyliau poblogaidd ar noson 16 Gorffennaf.

Yn ystod y gwrandawiad ym Mhontypridd, clywyd bod y gwasanaethau brys wedi eu galw, ond roedd Mr Dominy wedi marw.

Cafodd y cwest ei ohirio, ac mae ymchwiliad i achos ei farwolaeth yn parhau.

Credir i Mr Dominy farw rhwng 21:00 a 22:30.

'Y bachgen gorau, yn frawd'

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ond ni ddaeth i gasgliad dros dro ar achos y farwolaeth.

Fe wnaeth y crwner cynorthwyol, Kerrie Burge, ohirio'r cwest, gan ddisgwyl am fwy o wybodaeth gan awdurdodau Sbaen.

Fel teyrnged i Mr Dominy, fe ddaeth ei ffrindiau at ei gilydd i ryddhau balŵn yn agos i'w dŷ.

Fe wnaeth ffrind agos i Mr Dominy, Liam Greenway, gyfeirio at y golled ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud: "Dwi wir ddim yn gwybod beth i'w ddweud, dwi wedi colli rhan ohonof, ti oedd fy mraich dde.

"Roeddet mor arbennig i bawb ond yn bennaf i mi, y bachgen gorau, yn frawd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth ei ffrindiau at ei gilydd i ryddhau balŵn yn agos i'w dŷ er cof amdano

Fe wnaeth clwb nos Kooler ym Merthyr Tudful hefyd roi teyrnged, gan annog pobl i godi gwydraid er cof amdano wrth chwarae "Forever Young" dros y penwythnos.

Fe rannodd y clwb nos neges oedd yn dweud: "Rydym yng nghlwb nos Kooler wedi ein tristáu’n fawr o glywed am farwolaeth Harvey Dominy.

"Roedd ei egni lliwgar a'i gefnogaeth ddi-ben-draw yn dod â chymaint o fwynhad i bawb oedd wedi cael y fraint o'i adnabod. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Mae ymchwiliad i achos marwolaeth Mr Dominy yn parhau.

Pynciau cysylltiedig