£32m i ffermwyr er mwyn plannu 86 miliwn o goed
- Cyhoeddwyd
Bydd £32m yn cael ei roi i helpu ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i blannu 86 miliwn o goed erbyn 2030.
Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y bydd yr arian yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn creu "swyddi gwyrdd".
Mae'r arian yn rhan o'r cynlluniau sy'n nodi y dylai ffermwyr Cymru orchuddio eu tir â 10% o goed er mwyn bod yn gymwys ar gyfer arian cyhoeddus yn y dyfodol.
Dywed undeb NFU Cymru na ddylai'r polisi effeithio ar allu ffermwyr i gynhyrchu bwyd.
Mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn diwedd y degawd fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i wneud y wlad yn sero net erbyn 2050.
Dywedodd Ms James: "Bydd plannu mwy o goed yn hanfodol i helpu Cymru i osgoi rhai o effeithiau gwaetha'r newid yn yr hinsawdd.
"Gall creu coetir ddod â chyfoeth o fanteision i gymunedau lleol, o swyddi gwyrdd i leoedd ar gyfer natur.
"Rydym am i ffermwyr Cymru fod yn ganolog i'n cynlluniau. Does neb yn nabod eu tir yn well felly er mwyn sicrhau bod eu busnesau'n gynaliadwy, nhw fydd yn penderfynu ble i blannu'r coed.
"Cyn belled â'u bod yn bodloni Safon Goedwigaeth y DU, byddwn wrth law i roi'r help sydd ei angen arnyn nhw."
Bydd y cynlluniau yn cynnig grantiau ar gyfer plannu coed, codi ffensys a gatiau a gwaith cynnal a chadw am 12 mlynedd.
Dywedodd Hedd Pugh ar ran NFU Cymru: "Ry'n yn dal i aros am fwy o fanylion am y cynlluniau o ran sut y byddant yn gweithredu, pryd a dros ba gyfnod y bydd yr arian yn cael ei roi ac union gyfradd y taliadau.
"Heb y manylion yna mae'n anodd dweud a fydd y cynllun yma yn gwireddu dymuniad Llywodraeth Cymru."
Dyw nifer o ffermwyr, ychwanegodd Mr Pugh, ddim yn gwrthwynebu plannu coed ar dir llai ffrwythlon.
"Mae NFU Cymru yn credu na ddylai plannu mwy o goed yng Nghymru effeithio ar ein gallu i gynhyrchu bwyd na'n gallu i ddiogelu ein cymunedau, ein diwylliant a'n hiaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021