'Plannu coed Covid y llywodraeth yn bygwth cefn gwlad'
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthwynebiad chwyrn yn Sir Gâr i gynllun Llywodraeth Cymru i blannu coedwig newydd i gofio'r rheiny fu farw gyda Covid-19.
Ar y cyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, bwriad y llywodraeth yw plannu o leiaf 60,000 o goed ar safle 94 hectar maen nhw wedi ei brynu ar lan Afon Tywi ger pentref Llangadog.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y bydd y coed yn cyfrannu at eu targed o greu 43,000 hectar o goetir newydd yng Nghymru erbyn 2030.
Ond, mewn cyfweliad â Newyddion S4C, mae pryderon wedi eu codi am y cynllun i ddefnyddio darn o dir amaethyddol i blannu'r coed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn cynnal ymgynghoriad gyda phobl leol ac y bydd ffermwyr "yn ganolog" i benderfyniadau wrth geisio cyrraedd eu targedau erbyn 2030.
Dywedodd is-gadeirydd undeb amaethyddol NFU Cymru Sir Gaerfyrddin, bod angen cwestiynu cynllun y llywodraeth i leoli'r coetir ar dir amaethyddol.
Dywedodd Hefin Jones: "Ry'n ni wrth gwrs yn cydymdeimlo yn ddwys ag unrhyw deulu sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig, ond yn y cyd-destun ehangach, mae 'na gwestiwn teg i'w ofyn am y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r mater yma.
"Mae yn syndod ac yn bryder yn y sector amaeth bod Llywodraeth Cymru eu hunain yn cymryd tir sy'n gynhyrchiol, y tir sydd gyda'r gorau yn Sir Gaerfyrddin os nad yng Nghymru o ran capasiti cynhyrchu bwyd, ac yn plannu coed arno fe pan fod 'na safleoedd eraill efallai fyddai'n rhoi mwy o gyfle i bobl fynd i gofio, ac yn gwneud defnydd o dir sy'n llai cynhyrchiol."
Ychwanegodd y dylid ail-ystyried lleoliad y goedwig.
"Dyw Llangadog ddim y lle mwyaf canolog a dwi'n credu fod 'na gyfle tasai Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn 'to i ddefnyddio safleoedd, tir sydd falle ddim mor gynhyrchiol, sy'n nes at fannau poblog, a hynny wedyn yn rhoi cyfle sy'n fwy hygyrch i bobl fynd i gofio ac i fyfyrio."
Mae plannu coed ar dir amaethyddol wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, gyda sawl fferm yn y gorllewin wedi eu prynu gan gwmnïau mawrion gyda'r nod o blannu coed i gydbwyso eu hallyriadau carbon.
Yn ôl Rachel Evans, sydd yn byw yn Llangadog ac yn gyfarwyddwr ar y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, mae bygythiadau yn wynebu cymunedau cefn gwlad o Lundain ac o Gaerdydd.
"Er bod pobl yn yr ardal hyn wedi bod yn ofni bygythiad cwmnïau mawr yn Llundain yn prynu ffermydd yng Nghymru i offseto carbon emissions, mae'n flin gyda fi ddweud bod y bygythiad nawr yn lot agosach at adref...
"Mae'r bygythiad yn eistedd gyda Llywodraeth Cymru - y rhai sydd yn creu polisi amaeth yng Nghymru - os y'n nhw'n benderfynol i fynd ymlaen â'r cynllun hyn i blannu coed ar dir amaethyddol."
'Angen newid defnydd tir'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r "uchelgais" ar gyfer y coetir coffa yw "datblygu ardal fyw i'r gymuned gyfan ei fwynhau".
Dywedodd: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi canolbwyntio ar barseli o dir, yn agos at neu ar gyrion Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, gan geisio osgoi tir o werth amaethyddol lle bo hynny'n bosibl.
"Er mwyn creu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, bydd angen rhywfaint o newid defnydd tir o amaethyddiaeth i goetir. Rydym am i ffermwyr fod yn ganolog i hyn, ond bydd y coetiroedd coffa yn cael eu creu ar gyfer cymunedau lleol mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol."
Nododd y llefarydd y bydd y safle yn un o dri ar draws Cymru, a'i fod wedi ei ddewis gan y gellir sicrhau mynediad hawdd o'r brif ffordd a gorsafoedd trên cyfagos.
Roedd y datganiad hefyd yn nodi bod y safle hefyd yn wastad ac felly'n cynnig cyfle i greu llwybrau hygyrch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020