Guto Bebb: 'Y Ceidwadwyr yn colli yn yr etholiad nesaf'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn AS Aberconwy, Guto Bebb, yn dweud bod y Blaid Geidwadol wedi “troi’n glymblaid sydd bron yn amhosib i’w hasio at ei gilydd".
Ar Beti a’i Phobol, bu Guto Bebb yn trafod gwleidyddiaeth, ei naid o Blaid Cymru i’r Blaid Geidwadol, ei gefndir a’i deulu.
Bu Guto Bebb yn Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
“Heb os, mae’r rhagolygon yn bur wael, fyswn i’n dadlau, ar gyfer y Blaid Geidwadol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf," meddai.
“Mae hynny, wrth gwrs, yn ei hun, yn reit rhyfeddol o ystyried bod canlyniad Boris Johnson yn 2019 yn ganlyniad gwych iawn i’r Blaid Geidwadol; y perfformiad gorau yng Nghymru, yn sicr ers 1983, a mae’r ffaith bod hyn i gyd wedi cael ei daflu o’r neilltu mewn cyfnod mor fyr â phedair blynedd yn deud cyfrolau, dwi’n credu, am y ffordd mae’r Blaid Geidwadol wedi troi yn glymblaid sy' bron yn amhosib i’w hasio at ei gilydd.
“Mae’r gwahaniaethau o fewn y blaid bellach sy’n cael eu gweld yn glir yn y dadleuon dros Brexit, ond hefyd, yn cael eu gweld yn glir yng nghyd-destun ymrwymiad at gyfraith ryngwladol neu ddim, yn dysteb i’r ffaith bod hi’n blaid sydd yn ymestyn y syniad o fod yn eglwys eang i eithafion a dwi’n amheus iawn a fydd yr eithafion hynny yn gallu cael eu cynnal ar gyfer Etholiad Cyffredinol, felly fyswn i ddim yn rhagweld buddugoliaeth geidwadol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ond pwy â wyr, falle mod i’n anghywir."
Fe adawodd Guto San Steffan yn 2019 pan ddaeth Boris Johnson yn Brif Weinidog.
Mae’n feirniadol iawn o’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae'n dal i gael effaith negyddol iawn ar ein gwleidyddiaeth ni, felly allai ddim dweud fy mod yn hiraethu yn ormodol am San Steffan,” ychwanegodd.
Gwleidyddiaeth yn y gwaed
Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon ers deugain mlynedd. Mae’n briod ag Esyllt ac mae ganddyn nhw 5 o blant.
Fe aeth Guto i Brifysgol Aberystwyth i astudio hanes, ond roedd gwleidyddiaeth yn ei waed.
"Fy nghof cynharaf i o wleidyddiaeth ydi fy nhad yn trio egluro i mi beth oedd Etholiad Cyffredinol ym 1974; do’n i prin yn 6 oed, ond roedd fy nhad yn digwydd bod yn asiant i Ieuan Wyn Jones, pan safodd o yn etholaeth Gorllewin Sir Ddinbych yn 74.
“Dwi’n cofio’r tro cynta i fi fynd i ganfasio oedd efo fy nhad, yn Etholiad Cyffredinol 1983 a hynny ar ran Dafydd Wigley.
Fe gollodd Guto ei dad yn weddol ifanc o ganser yr ysgyfaint.
“Mae’n 20 mlynedd ers colli ‘nhad, doedd o ddim ond 63 oed, ac mae chwith mawr gen i nad ydi’r plant ar y cyfan ddim wedi cael y cyfle i’w adnabod."
Ambrose Bebb ar y 'sideboard'
Mae Guto yn perthyn i deulu gwleidyddol amlwg. Ei daid oedd Ambrose Bebb, cyd-sefydlydd Plaid Cymru.
“Ro’n i 'di colli taid ymhell cyn i mi gael fy ngeni felly llun oedd o ar sideboard yn tŷ nain, ond roedd rhywun yn ymwybodol iawn bod Ambrose Bebb yn rhywun oedd wedi gwneud cyfraniad.
“Ei gyfraniad mawr o, 'swn i’n ddeud, oedd nid yn unig bod yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru ond ei gyfraniad o yn y byd hanesyddol o gael y syniad 'ma bod angen cyflwyno hanes Cymru i bobl ifanc Cymru, ac mae’n wir i ddeud bod o’n flynyddoedd helaeth o flaen ei amser yn hynny o beth, achos dim ond yn ddiweddar iawn, dwi'n credu, bod y cwricwlwm yng Nghymru yn adlewyrchu’r angen i fod yn ymwybodol o’n hanes ein hunain."
Fe dreuliodd Ambrose Bebb dair mlynedd fel myfyriwr a darlithydd ym Mhrifysgol Sorbonne ym Mharis.
“Mae’n rhyfeddol bod rhywun o gefn gwlad Ceredigion wedi mynd yn ddarlithydd yn y Sorbonne - mae'n dipyn o gamp yn ei hun!"
'Fy agweddau'n annerbyniol gan Plaid Cymru'
Roedd gwleidyddiaeth yn amlwg ar yr aelwyd, ac fe ddaeth Guto Bebb yn gynghorydd ifanc ar dre Caernarfon.
“Mi o’n i’n cicio yn erbyn y tresi, mae’n debyg bo fi 'chydig bach yn rhy ymosodol yn fy agweddau, efallai, ac yn rhy barod i ddweud bod ni angen 'neud pethau’n wahanol, ond pan ddaru’r cyfle i gynnig fy enw i ddilyn Dafydd Wigley, mi wnes i hynny a dyna fo, ddaru fi ddim llwyddo," meddai.
“Yr hyn sy wedi cael ei ddweud dros y blynyddoedd, ydi fy mod i wedi cael fy mhechu gan Blaid Cymru bryd hynny ond dydy hynny ddim cweit yn gywir, achos mi ddaru mi chydig fisoedd yn ddiweddarach, gynnig fy hun yn ymgeisydd yng ngorllewin Clwyd.
“Ches i mo’r enwebiad, ond y noson honno, mi ffoniodd y cyfieithydd fi, a rhoi gwbod i mi bod 'na genadwri wedi dod o’r brif swyddfa yng Nghaerdydd nad oeddwn i i gael fy newis."
“Dyna oedd diwedd y daith i mi, deud gwir.
“Ro’n i wedi dod i’r casgliad bod rhai o fy agweddau i ddim yn dderbyniol o fewn y Blaid.
“Mi ddwedodd rhywun wrthai unwaith, ‘Wel, rwyt ti’n chydig bach rhy bell i’r dde i ni’ ac eto, yr un un bobl oedd yn credu bod o’n rhyw frad fawr bo fi wedi penderfynu mynd.”
Ymuno efo'r Ceidwadwyr yn 'sioc'
Wedi gadael Plaid Cymru, fe ymunodd Guto â’r Ceidwadwyr a sefyll dros etholaeth Ogwr, er mawr syndod i bawb.
“Fues i’n ddigon gwirion i ymuno â’r Blaid Geidwadol wrth fwrdd cegin Owen Patterson.
“Mi fuodd farw Ray Powell, ac mi gafodd Owen Patterson y syniad gwallgo o gael fi fel ymgeisydd yn Ogwr. Dwi ddim yn credu bod o 'di deall bod 170 o filltiroedd rhwng Caernarfon ac Ogwr!"
Wedi galwad gan Iain Duncan Smith, arweinydd yr wrthblaid ar y pryd, yn gofyn iddo sefyll, dyma Guto’n cytuno, ar fyr rybudd.
“Pan dorrodd y stori ar y newyddion, doeddwn i ddim wedi bod digon sydyn i roi gwbod i bobl ymlaen llaw, felly, roedd Mam yn sicr wedi cael dipyn o ddychryn, ond roedd fy mam a ‘nhad yng nghyfraith 'di cael sioc go iawn!”
Fe lwyddodd Guto Bebb i ennill sedd yn San Steffan dros etholaeth Aberconwy yn Etholiad 2010.
“Roedd cyrraedd San Steffan yn lle gwahanol iawn i rywun sydd heb fod i ysgol fonedd, ac mae lot o’r cwynion da chi’n glywed am Dŷ’r Cyffredin yn gywir yn de, mae o’n le od iawn," meddai.
Ansicrwydd i amaethwyr
Mae Guto erbyn hyn yn Brif Weithredwr Grŵp a Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ac yn gyfrifol am rhyw 120 o staff.
“Mae gyda ni ansicrwydd dybryd yn wynebu’r sector yn sgil newidiadau i’r dulliau cyllido sy’n bodoli ar gyfer byd amaeth," meddai.
"Busnes ydi fferm, mae’n rhaid i’r fferm greu elw neu dydy hi ddim yn mynd i barhau, ac wrth gwrs, mae’n anodd cynllunio busnes pan chi ddim yn gwbod be fydd y cyd-destun ariannol, chi ddim yn sicr lle mae’ch marchnadoedd chi’n mynd i fodoli, oherwydd bod Brexit wedi ymyrryd ar y farchnad fwyaf sydd ganddo ni, ac wrth gwrs, ar ben hyn i gyd, mae gyda chi bolisïau gan y llywodraeth sydd yn agor y drws i fewnforion o bob rhan o’r byd, a’r mewnforion hynny yn aml iawn ddim yn gofyn i gyrraedd yr un un safon â’r gofynion cyfreithiol sy’n bodoli yma yng Nghymru.
"Mae’n gyfnod o ansicrwydd, a dwi’n credu bod gan amaethwyr le i fod yn bryderus ond wrth gwrs, dyna pam bod hi’n bwysig iawn fod ‘na leisiau yn siarad ar ran y sector, yn y ddwy undeb, a bod yn gwbl deg."
Dychwelyd i wleidyddiaeth?
Petai’n cael cynnig sefyll eto dros y Blaid Geidwadol, fyddai Guto’n mentro?
“Dwi ddim yn meddwl byswn i eisiau cynrychioli’r Blaid Geidwadol sydd ohoni.
"Dwi ddim yn meddwl bod hi’n mynd i allu newid yn y dyfodol agos achos mae Brexit a Boris Johnson wedi creu clymblaid newydd o fewn y Blaid Geidwadol sy’n mynd i gymryd cyfnod maith i’w sortio’i hun allan, dwi’n meddwl."
A fyddai’n ystyried ailymuno â Phlaid Cymru tybed?
“Na, mi ges i gynnig, wnes i ddim neidio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2019