Corff dyn wedi'i ganfod 28 mlynedd ar ôl iddo fynd ar goll

Cafodd y cwest ei gynnal yn y Guildhall yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi'i agor i farwolaeth dyn 86 oed, ar ôl i'w gorff gael ei ganfod 28 mlynedd wedi iddo fynd ar goll.
Fe glywodd cwest yn Llys y Crwner yn Abertawe ddydd Mawrth bod David Emrys Gear wedi mynd ar goll o gartref gofal yn Abertawe ym mis Mai 1997.
Cafodd ei gorff ei ganfod yn ardal Treforys ar 20 Chwefror 2025 - ddim yn bell o'r man ble aeth ar goll.
Fe gadarnhaodd profion DNA fforensig mai gweddillion Mr Gear oedden nhw.
Clywodd y Crwner Aled Gruffydd nad oedd achos y farwolaeth wedi'i benderfynu eto ac fe estynnodd ei gydymdeimlad â theulu Mr Gear.
Mae'r cwest wedi'i ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.