Luka Modric yn buddsoddi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe

Luka Modric yn chwarae yn erbyn Abertawe yn ystod ei gyfnod yn chwarae i Tottenham Hotspur
- Cyhoeddwyd
Mae seren Real Madrid a Croatia, Luka Modric wedi buddsoddi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe.
Mae'r chwaraewr canol cae 39 oed bellach yn berchen ar gyfran leiafrifol o'r Elyrch - ac yn ymuno gyda'r perchnogion eraill Andy Coleman, Brett Cravatt, Nigel Morris a Jason Cohen.
Dywedodd y clwb mewn datganiad fod buddsoddiad Modric yn "gydnabyddiaeth o'u huchelgais a'u gweledigaeth", gan ychwanegu y bydd yn "chwarae rôl hanfodol wrth geisio tyfu enw a statws Abertawe o amgylch y byd".
Ychwanegodd Modric fod hwn yn "gyfle cyffrous" iddo, a bod gan Abertawe "hunaniaeth glir, cefnogwyr anhygoel a'r uchelgais i chwarae ar y lefel uchaf".
"Ar ôl chwarae ar y lefel uchaf, dwi'n hyderus y byddaf yn gallu rhannu'r profiad yna gyda'r clwb. Y nod i mi yw cefnogi twf y clwb mewn ffordd adeiladol wrth i ni weithio tuag at ddyfodol cyffrous iawn," meddai.
Nid dyma'r enw mawr cyntaf i fuddsoddi yn un o dimau pêl-droed Cymru, gyda'r sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney eisoes yn berchen ar Wrecsam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Mawrth