Seiclo am dros flwyddyn i godi arian er cof am dad ffrind

Mae Dyfan, James a Louis wedi bod yn seiclo bellach ers rhyw dair wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl ifanc o ardal Llangollen yn beicio o Gymru i Wlad Thai i ymweld â ffrind sydd wedi colli ei dad, a chodi arian at elusen er cof amdano.
Dyw Dyfan Hughes, 17, James Thomas, 18, a Louis Dennis, 18, ddim yn seiclwyr profiadol o bell ffordd.
Cyn dechrau'r daith doedden nhw ddim wedi bod fawr pellach na'r siop leol o le brynon nhw'r beics.
Ond dros y flwyddyn nesaf a mwy fe fyddan nhw'n beicio trwy 19 o wledydd i gwrdd â'u ffrind, a symudodd i Wlad Thai chwe mis yn ôl ar ôl i'w dad farw.
Un o'r heriau mwyaf, meddai James, fydd mynd trwy Kazakhstan oherwydd "gallech chi fod yn teithio am ddegau o filltiroedd heb weld tref na dim byd".

Mae nifer yn cefnogi'r tri ac mae ganddyn nhw ddegau o filoedd o ddilynwyr ar Instagram a TikTok
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd James eu bod eisoes wedi seiclo am ryw 21 diwrnod ac wedi cyrraedd yr Almaen.
"Dydd Iau fe ges i puncture a doedd na'r un ohonon ni wedi trwsio un o'r blaen, ond fe ddaethon ni at ein gilydd ac fe drwsion ni fe, sy'n wych!
"Mae popeth yn iawn nawr a dydyn ni ddim wedi cael llawer o anawsterau gyda'r beiciau eto."
Ond dyw'r daith ddim yn dod i ben tan hydref 2026 - a nesaf ymhlith y gwledydd y bydd y tri yn mynd iddynt mae Awstria, Hwngari, Serbia a Thwrci, cyn cyrraedd Kazakhstan.
Fe fyddan nhw wedyn yn hedfan i India, seiclo yn India ac yna hedfan i Fietnam a seiclo yno.

Wedi'r Almaen bydd y tri yn mynd i Awstria ac yna Hwngari
Cyn dechrau ar yr antur aeth y tri ar gwrs pedair wythnos i gael hyfforddiant gan y siop leol ar sut i drwsio beic petai rhywbeth yn mynd o'i le.
"Prin ein bod ni wedi reidio beic o'r blaen," meddai James.
"Fe wnaethon ni brynu ein beiciau tua dau fis yn ôl, ac rydyn ni wedi mynd amdani."
Dywedodd Dyfan: "Hyd yma mae'r daith wedi mynd yn wych, mae'r bobl yn wych a'r golygfeydd."
Ychwanegodd Louis eu bod "wedi dysgu rhywfaint gan y siop leol ond hefyd wedi bod yn dilyn seiclwyr ar TikTok".
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
Mae'r tri yn codi arian at Sefydliad y Galon yn sgil marwolaeth tad eu ffrind, Harrison, a bellach mae 25,000 yn eu dilyn ar Instagram a 87,000 ar TikTok.
"Rydyn ni'n llawn cyffro am bopeth ac yn cael mwy o brofiad wrth i'r dyddiau fynd heibio, a ni wedi dysgu llawer yn ystod y tair wythnos hyn," meddai James.
"Mae wedi cymryd rhyw ddau i dri mis i ni gynllunio'r daith gan bo' ni methu mynd i bob gwlad yn sgil rhyfeloedd.
"Hefyd mae'n rhaid i ni ystyried y tywydd.
"Fe wnaethon ni gynllunio, er enghraifft, ein bod yn mynd Kazakhstan ym mis Ebrill, oherwydd nad yw'r tywydd yn rhy oer yno yr adeg honno.
"Ry'n ni'n hyderus y byddwn ni'n llwyddo ac yn edrych ymlaen i weld ein ffrind a chodi'r arian er cof am ei dad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.