Marwolaeth Abertawe: Dau ddyn yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ar ôl i ddyn 33 oed farw wedi ymosodiad yn Abertawe.
Bu farw Andrew Main, o Falkirk yn yr Alban, yn yr ysbyty bedair wythnos ar ôl ymosodiad ger mynedfa'r Travelodge ar Ffordd y Dywysoges tua 02:00 ar 17 Gorffennaf.
Ymddangosodd Joseph Dix, 26, o Frome yng Ngwlad yr Haf a Macauley Ruddock, 27 o Gaerfaddon yn Llys y Goron Abertawe i gadarnhau eu henwau.
Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys eto ar 30 Awst.
Dywedodd Nicola Whelan, a drefnodd ymgyrch i godi arian ar gyfer teulu Mr Main ei fod yn "dad, brawd a ffrind arbennig oedd wrth ei fodd yn cael hwyl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024