Dyn yn euog o lofruddio dyn arall gydag un ergyd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Abertawe wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn 64 oed gydag un dwrn i'w ben yng Ngorseinon.
Fe wnaeth Christopher Cooper, 39, ddyrnu Kelvin Evans y tu allan i Westy'r Orsaf ar Stryd Fawr Gorseinon ar 26 Mai eleni.
Cafodd Mr Evans, o Orseinon, ei gludo i’r ysbyty ar ôl yr ymosodiad, ble bu farw'n ddiweddarach.
Plediodd Cooper yn euog i ddynladdiad ond roedd yn gwadu llofruddiaeth.
Ond penderfynodd rheithgor ddydd Gwener ei fod yn euog o lofruddio Mr Evans.
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2024
Mae partner Cooper, Catherine Francis, 54 o Lanelli, hefyd wedi'i chael yn euog o gynorthwyo troseddwr mewn ymgais i atal ei erlyniad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt: "Rydym yn falch o weld bod cyfiawnder wedi'i wneud yn y llys.
"Mae trais Christopher Cooper wedi costio bywyd dyn arall, ac ni fydd teulu'r dioddefwr byth yn anghofio eu profiad trawmatig."
Mae disgwyl i Cooper a Francis gael eu dedfrydu ar 3 Ionawr.