Grŵp asgell dde eithafol 'wedi neidio ar gefn pryderon rhesymol'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys iaith all beri gofid i rai
Mae ymgyrchwyr asgell dde wedi meithrin perthynas amhriodol â phobl drwy "neidio ar gefn" pryderon "rhesymol" am geiswyr lloches, yn ôl gwleidydd Cymreig blaenllaw.
Dywedodd y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Lee Waters fod etholwyr bregus yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, wedi eu targedu gan rai oedd am wthio "agenda cas" yn ystod protestiadau yn y dref yn 2023.
Fe arweiniodd cynlluniau Llywodraeth y DU i gartrefu ceiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn y dref at 100 diwrnod o brotestiadau.
Daw sylwadau'r Aelod o'r Senedd dros Lanelli wrth i bwysau gynyddu ar yr heddlu i ymchwilio i grŵp asgell dde gafodd ei ddatgelu mewn ymchwiliad cudd gan y BBC.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
"Yr hyn y mae'r asgell dde yn ei wneud dro ar ôl tro yw rhoi eu hunain yng nghanol cwynion cyfreithlon a gwthio eu hagenda o hil," meddai Mr Walters.
Yn ôl y cyn-weinidog mi oedd gan bobl yr ardal "bryderon hollol resymol" ynglŷn â thai a'r gallu i weld meddyg yn lleol.
"Fe wnaethon nhw droi at bobl fregus a rhoi pwrpas a chymuned iddyn nhw a chreu ymdeimlad o gyfeillgarwch."
Ychwanegodd fod rhai pobl wedi dechrau dweud "pethau erchyll" oedd ddim yn adlewyrchu barn y mwyafrif yn Llanelli.
"Mae ganddyn nhw dacteg amlwg iawn ac mae angen i ni eu herio."
Daw ei sylwadau wrth i ffigyrau gwleidyddol a chyfreithiol blaenllaw ddweud bod gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron "ddyletswydd" i edrych ar dystiolaeth gafodd ei gasglu yn ystod ymchwiliad cudd gan y BBC i grŵp Patriotic Alternative (PA).
Treuliodd newyddiadurwr cudd flwyddyn yn ymchwilio i'r grŵp, gan recordio aelodau Cymreig yn defnyddio iaith hiliol.
Dywedodd un aelod ei fod yn credu y dylai mudwyr gael eu saethu, ac y dylai'r grŵp ddefnyddio tactegau tebyg i'r blaid Natsïaidd er mwyn cael pŵer.
Bellach, mae cyn-ymgynghorydd i Lywodraeth y DU ar gyfraith terfysgaeth, cyn-gomisiynydd heddlu a throsedd a gwleidyddion amlwg wedi galw am weithredu.
"Mae angen i'r heddlu weithredu, nid gwneud merthyron ohonyn nhw, ond eu trin fel troseddwyr treisgar, a dyna beth yw'r ymddygiad yma," meddai Mr Waters.
'Mae’n anodd iawn ond roedd rhaid i mi barhau i gasglu, heb ymateb'
Y newyddiadurwr Dan Jones yn trafod y profiad o wneud gwaith ymchwil cudd
Dywedodd cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick K.C, ei fod yn "angenrheidiol" bod yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymateb i'r adroddiad.
"Mae'n ddyletswydd arnyn nhw i edrych ar y dystiolaeth," meddai
"Mae rhai unigolion yn dweud eu bod nhw am gael gafael ar arfau a gynnau. Byddai hynny yn annog eraill i wneud yr un fath, a drwy annog troseddau o'r fath, maen nhw eu hunain yn troseddu."
Dywedodd arweinydd PA, Mark Collett nad ydyn nhw'n eithafol, ddim yn hyrwyddo trais ac yn ymgyrchu'n heddychlon dros hawliau'r hyn mae'n ei alw'n "bobl frodorol o Brydain".
Mae Patriotic Alternative, y grŵp mwyaf o'i fath yn y DU gyda 500 o aelodau a miloedd o ddilynwyr ar-lein, yn dweud eu bod yn bodoli er mwyn "codi ymwybyddiaeth" o fewnfudo a hyrwyddo "gwerthoedd teuluol".
Dywedodd yr Arglwydd Carlile, cyn-Arolygydd Annibynnol Deddfwriaeth Terfysgaeth y DU rhwng 2001 a 2011, fod yr adroddiad cudd yn "hynod bryderus".
"Mae'n ymddangos y dylai'r mudiad fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ac o bosib gallai hynny arwain at gyhuddiad gan y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus," meddai ar raglen BBC Radio Wales Breakfast.
"Os yw adroddiadau'r BBC yn gywir, mae yna o leiaf dystiolaeth ddechreuol o anogaeth i gyflawni trosedd, gan gynnwys troseddau treisgar yn erbyn mewnfudwyr, ac nid yw hynny'n dderbyniol yn ein cymdeithas."
Mae gan PA ganghennau rhanbarthol ledled y DU ac maen nhw'n annog aelodau - gan gynnwys cyn-athrawon a nyrsys - i gynnal protestiadau, tynnu sylw at faterion mewnfudo, ffilmio eu gweithgareddau a rhannu clipiau ar-lein.
'Bygythiad i gymdeithas'
Mae angen newid y gyfraith i wneud grwpiau fel PA yn anghyfreithlon ar frys, meddai cyn-Gomisiynydd Gwrth Eithafiaeth y DU y Fonesig Sara Khan.
Ychwanegodd yr Arglwydd Carlile, fu'n Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn am 14 mlynedd tan 1997: "Mae gan bobl yr hawl i ffurfio pleidiau gwleidyddol a mynegi barn gref.
"Ond dydyn nhw ddim yn cael ysgogi troseddu, ac mae'r adroddiadau'n awgrymu y gallai Patriotic Alternative fod wedi croesi'r llinell."
Mae Sioned Williams, sy'n eistedd ar bwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol y Senedd, wedi cefnogi galwadau i wahardd y grŵp.
"Dwi'n sicr yn cefnogi'r galwadau am ddynodi grwpiau asgell dde eithafol fel hyn yn grwpiau terfysgol.
"Dwi'n meddwl eu bod nhw'n fygythiad i gymdeithas ac i nifer o bobl o grwpiau penodol o fewn ein cymdeithas."
Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.